English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysgol 2018 – adroddiad briffio ar gynnydd

Craffu ar ddatblygiad ac adolygiad polisi ar gynllun gweithredu trawsnewid rhanbarthol Canolbarth y De ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysgol 2018.  

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Jenny Hughes (Uwch Arweinydd Cyflawniad ar gyfer Cynhwysiant) a Liz Jones (Arweinydd Trawsnewid ADY ar gyfer Rhanbarth Canolbarth y De) i’r cyfarfod.

 

Gwnaeth Jenny Hughes gyflwyniad byr (Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgol, Goblygiadau i Gaerdydd) a amlinellodd nodau'r Ddeddf a phrif heriau a chamau gweithredu o ganlyniad.

 

Cyflwynodd Liz Jones (Arweinydd Trawsnewid ADY Rhanbarth Canolbarth y De) ei rôl i Aelodau yn ogystal â'r gwaith a gynhaliwyd gan Ranbarth Canolbarth y De hyd heddiw. 

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

 

  •  

Nododd Aelodau nas crybwyllwyd y cysylltiad cryf rhwng plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a phlant sy'n derbyn gofal yn benodol.  Dywedodd Swyddogion y bydd angen cynllun datblygu unigol (CDU) ar bob plentyn gydag ADY sy’n derbyn gofal.  Mae’n rhaid bod cysylltiad gweithgar rhwng yr ysgol ac asiantaethau eraill, a fydd yn caniatáu i roi rhagor o sylw i ymyrraeth gynnar.  Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu na fydd gweithredu ar hyn yn defnyddio adnoddau.  Dywedodd LJ y bydd goblygiadau ar gyfer adnoddau.  Mae’n rhaid alinio cynlluniau ar y cyd.  Bydd CDU yn rhan annatod o’r Cynllun Addysg Personol.

 

  •  

Gofynnodd aelodau am eglurhad o ran tarddiad y CDU ar gyfer plant 0-3 oed, a sut y mae’n cael ei drosglwyddo i addysg dosbarth meithrin ymhellach a hefyd i’r ysgol.  Cafodd Aelodau wybod bod gwaith wedi ei ariannu gan grant yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yngl?n â hynny.   Byddai'r Gwasanaeth Iechyd yn atgyfeirio.  Er mai nhw fydd yn arwain wrth osod y CDU, byddai cyfrifoldeb ar yr awdurdod dan y cod i sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith.  Crëwyd dwy swydd newydd, swyddog clinigol arweiniol a swyddog anghenion dysgu ychwanegol y blynyddoedd cynnar.  Maent yn swyddi statudol sydd â’r bwriad y byddant yn gweithio ar y cyd a chyda’r awdurdod lleol i sicrhau na fydd unrhyw blant yn cael eu gadael yn ôl.

 

  •  

Holodd Aelodau p’un a fyddai rhwymedigaeth ar feithrinfeydd preifat i ddilyn y CDUau a dywedwyd wrthynt fod swyddogion yn gweithio gyda'r sector annibynnol eisoes, a bydd yno gyfrifoldeb arnynt a darperir hyfforddiant hefyd. 

 

  •  

Nododd Aelodau fod y rhain yn newidiadau sylfaenol i’r system hon.   Adolygir y trefniadau gyda’r consortiwm ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn addas i’w pwrpas.   Y cwestiwn yw p’un a oes digon o gapasiti a phenderfyniad i gyflawni'r hyn i gyd yr ydym yn anelu ato.  Ceir heriau mawr yn y rhaglen datblygu ysgolion yngl?n â'r newidiadau ADY; nid yw'n niwtral o ran adnoddau yn bendant.

 

  •  

Pwysleisiodd Aelodau sydd wedi cynnal gwaith yn y Pwyllgor ar blant sy’n derbyn gofal fod Cynlluniau Addysg Personol yn wael iawn a gwnaethant holi pa sicrwydd y gellir ei roi y bydd y cynlluniau’n gyson ac o safon uchel.  Dywedodd arweinydd ar drawsnewid ADY mai’r Swyddogion Adolygu Annibynnol sydd â’r cyfrifoldeb am CAPau, fodd bynnag, yngl?n â CDUau mae rhaglenni treialu yn cael eu cynnal ar hyn o bryd i ganfod yr hyn a fydd yn Gynllun Datblygu Unigol da.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.