Eitem Agenda

Cyfraniad Consortiwm Canolbarth y De at godi safonau yn Ysgolion Caerdydd

Cwblhau’r craffu ar adolygiad perfformiad ar gyfraniad Consortiwm Canolbarth y De ar godi safonau yn ysgolion Caerdydd.

 

Cofnodion:

Ar ddechrau’r agenda, nododd y Cadeirydd y byddai'r eitem hon ynghyd ag Adroddiad Blynyddol Ysgolion yn cael eu trafod gyda'i gilydd.

 

Croesawodd y Cadeirydd Louise Muteham (Swyddog Datblygu HCDC), Geraint Lewis a Catherine Rowlands (Uwch Ymgynghorwyr Her) i’r cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd hefyd y Cynghorydd Merry (Diprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Jackie Turner (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg) i’r cyfarfod, i gyflwyno eu barn ar adroddiad y consortiwm i aelodau ac i gyflwyno yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad Ysgolion.

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Cynorthwyol gyflwyniad i Aelodau (Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad Ysgolion Caerdydd 2017/18) a ddaeth i ben gyda'r prif heriau sef: lleihau’r bwlch ym mherfformiad plant sy’n derbyn gofal o’i gymharu â phlant eraill eu hoedran; gwella canlyniadau dysgwyr ar lefel 1; gwella canlyniadau dysgwyr a addysgir mewn lleoliadau nad ydynt yn ysgolion (Addysg Heblaw yn yr Ysgol); parhau i leihau'r bwlch yng nghanlyniadau pobl ifanc sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim o’i gymhari â'r rhai nad ydynt yn gymwys a sicrhau bod darpariaeth o ansawdd uchel ar waith i wella lles yr holl ddisgyblion a’r staff ym maes addysg.

 

Cyflwynodd Cathreine Rowlands adroddiad Consortiwm Canolbarth Y De a rhoddodd wybod i aelodau fod y Rheolwr Gyfarwyddwr wedi gadael ar ddiwedd y mis diwethaf.

 

Rhoddwyd i aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â'r cynnydd mewn ysgolion mewn angen.   O’r 127 o ysgolion, rodd angen cymorth coch ar 3 yn ystod 2017/18 ond eleni, 2 fydd yr ysgolion sydd angen y fath gymorth; roedd angen cymorth lefel ambr ar 11 o ysgolion yn ystod 2017/18 ond bydd 12 yn y categori hwn eleni; roedd angen cymorth lefel melyn ar 48 o ysgolion yn ystod 2017/18, ond eleni bydd 46 o ysgolion yn y categori hwn; ac yn olaf, roedd angen cymorth lefel gwyrdd ar 65 o ysgolion yn ystod 2017/18, ond bydd 70 o ysgolion yn y categori hwn eleni.

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  •  

Gofynnodd aelodau am berthnasedd y wybodaeth a ddarparwyd yn y tablau cynghrair.  Dywedodd y Swyddogion fod y ffigurau wedi eu darparu gan Lywodraeth Cymru.  Beth sydd ei angen yw datganiad clir o uchelgais – mae Caerdydd yn ddinas ryngwladol ac fel prifddinas, dylai Caerdydd gael ei chymharu â dinasoedd eraill; mae angen symud oddi ar y gymhariaeth â'r 21 awdurdod lleol arall yng Nghymru. 

 

  •  

Mynegodd aelodau bryder fod llawer i’w wneud ar gyfer plant sy’n derbyn gofal er bod y canlyniadau wedi gwella i ryw raddau, ac mae pryderon o hyd o ran plant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu hanfon y tu allan i’r sir, yn enwedig o ran eu haddysg.  Dywedodd yr Aelod Cabinet ei bod yn bwysig i Gaerdydd ddarparu am bob un o’i phlant sy’n derbyn gofal gan gynnwys y rheiny sydd y tu allan i’r sir ac sydd yng Nghaerdydd.  Mae Swyddogion yn credu bod problemau gyda’r ffordd a ddyrennir cyllid ychwanegol.  Dylai’r cyllid ddilyn y plentyn a’r cynllun addysg. Nes y bydd y dyraniad cyllid yn newid, mae’n bwysig ceisio cefnogi'r system yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, mae’n bwysig defnyddio’r cyllid yn fwy priodol.  Mae’n rhaid bod aliniad rhwng yr awdurdodau ac mae’n rhaid i bawb ymrwymo i gael yr addysg orau.

 

  •  

Gofynnodd aelodau am yr offer parodrwydd ar-lein a chafodd wybod ei fod wedi ei seilio ar theori Kotter am newid sy'n broses wyth cam.  Cafodd aelodau wybod fod Caerdydd ar y trywydd iawn ar hyn o bryd gan ystyried y cafodd y cwricwlwm drafft ei gyhoeddi ym mis Ebrill.

 

  •  

Gofynnodd aelodau p’un a fyddai’r consortiwm fod wedi disgwyl i ysgolion nodi unrhyw broblemau os nad oedd unrhyw beth wedi ei nodi yn y 3 archwiliad diwethaf ai peidio, a dywedwyd wrthynt y gall hyn ddigwydd, ei bod yn bosibl i adroddiadau fod yn wrthrychol iawn, ond nad oedd llawer o ganlyniadau annisgwyl gan amlaf. Nododd Swyddogion fod cyfarfodydd ar y cyd yn cael eu cynnal rhwng yr awdurdod lleol a’r consortiwm lle bydd pob ysgol yn cael ei hystyried, o AD i wella'r ysgol ac addysgeg.  Mae pwyslais penodol ar hyn o bryd ar ysgolion melyn a gwyrdd i weithio’n ataliol fel na fydd unrhyw ganlyniadau annisgwyl.

 

  •  

Amlygodd aelodau bwysigrwydd yr addysgu da cyson a'r profiadau dysgu ychwanegol sydd wedi eu rhaglennu'n dda. Mae ymgysylltu â busnesau a chyflogwyr wedi ei dargedu’n fwriadol mewn ysgolion mewn ardaloedd dan anfantais. 

 

  •  

Gofynnodd aelodau p’un a oedd rhagor o symudiadau mewn swyddi uwch arweinyddiaeth erbyn hyn.  Nododd y swyddog datblygu fod yno ragor o gyfleoedd am ddatblygu proffesiynol gyda’r Grwpiau Gwella Ysgolion.

 

  •  

Trafododd aelodau p’un a oedd camau llywio ar y cyd ar gyfer digartrefedd a chysgu yng nghartrefi ffrindiau a theulu. 

Nodwyd bod pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn dal i fod yn broblem yn y ddinas er bod y darlun yn gadarnhaol o ran hynny.

???????????????????????????????????????????????????????????????????

 

Yn genedlaethol, mae nifer y plant sydd mewn llety dros dro yn cynyddu.

 

  •  

Dywedwyd wrth Aelodau fod tuedd gynyddol mewn addysg ddewisol yn y cartref ond nad oedd y ffigurau hynny yn rhan o’r ffigurau Addysg Heblaw yn yr Ysgol.  Nodwyd  y gwelwyd cynnydd yn niferoedd y gwaharddiadau o’r ysgol am lai na 5 niwrnod yn sector ysgolion cynradd a gofynnodd Aelodau p’un ai a oedd unrhyw duedd neu batrwm.  Nododd Swyddogion fod rhyw faint o gynnydd yn addysg ddewisol yn y cartref yn cynnwys y plant nad yw ysgolion yn eu heisiau.

 

  •  

Gofynnodd Aelodau p’un a fyddai colli’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn effeithio ar yr ysgolion hynny sydd â chanran uwch o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, yn benodol y grwpiau Romani a Sipsiwn Teithwyr.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gwleidyddion yn parhau i lobïo gerbron  Llywodraeth Cymru ar y mater hwn er bod barn Llywodraeth Cymru wedi newid i ryw raddau.  Weithiau, nid yw un model o ddarpariaeth yn addas i bob awdurdod.

 

  •  

Holodd Aelodau pa mor gryf oedd y Consortiwm yn gysylltiedig â Chyrff Llywodraethu Ysgolion a dywedodd CR (Uwch Ymgynghorydd Her) nad oedd yn ddigon yn y dechrau - ac er bod hyfforddiant wedi ei ddarparu, nid oedd hyn yn golygu eu bod yn gweithredu ag y dylent.  Fodd bynnag, gwnaed adolygiadau o Gyrff Llywodraethu, crëwyd cynllun gweithredu ac mae adolygiad pellach wedi bod yn cael ei gynnal.  Er bod y ffordd o weithio hon yn effeithiol mae rhagor i’w wneud o hyd.

 

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: