Eitem Agenda

Polisi Diogelu - Adroddiad ar Gynnydd ac Adolygiad o'r Polisi

Ymgymryd â chraffu cyn-penderfyniad a chyn adolygiad polisi craffu cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Chris Weaver (Aelod y Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad a Chadeirydd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol), Claire Marchant (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) ac Alys Jones (Rheolwr Gweithredol, Diogelu) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Weaver i wneud datganiad, ac amlygwyd y ffaith bod Diogelu yn cwmpasu’r holl Gyfarwyddiaethau a bod gofynion y polisi yn cael eu deall gan bawb.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i aelodau’r pwyllgor (Polisi Diogelu Corfforaethol ac Adroddiad ar Gynnydd) a amlinellodd nifer o faterion gan gynnwys y prif gyflawniadau hyd heddiw a’r flaenraglen waith.

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  •  

Trafododd aelodau rai enghreifftiau o broblemau diogelu sydd wedi eu codi, cyfeiriodd Swyddogion at enghraifft o bryder a godwyd  yngl?n â gyrrwr tacsi.  Bu angen rhoi ystyriaeth i’r trefniadau a roddwyd ar waith gan yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â phroblemau o’r fath, a’r weithdrefn am atal person o’r fath rhag bod yn yrrwr neu sicrhau bod gweithdrefnau diogelu ar waith.  Cyfeiriodd Swyddogion hefyd at enghraifft o gasglwr gwastraff yn casglu sbwriel ac yn dod yn ymwybodol o blentyn yn y cartref mewn trallod.  Dyma enghraifft o gydnabod problem bosibl ac adrodd arno er mwyn galluogi ymchwiliad ynddo.

 

  •  

Mynegodd aelodau bryderon o ran a oes gan dîm mor fach â thîm trwyddedu y capasiti i weithredu’n llawn ar yr uchelgeisiau o ran diogelu, ond pwysleisiodd fod angen sicrhau bod diogelu wedi ei ymwreiddio fel y gall yr holl staff ddeall eu cyfrifoldeb a'r hyn sy'n ofynnol.

 

  •  

Nododd aelodau fod yr hyfforddiant sylfaenol ymwybyddiaeth o ddiogelu wedi ei sicrhau, gall y staff gael gafael ar yr hyfforddiant gyda dyfeisiau, darperir hyfforddiant ar wahân ar gyfer y rhai nad oes ganddynt fynediad.

 

  •  

Gofynnodd aelodau am y cysylltiad rhwng y polisi a’r strategaeth ‘Prevent’.  Nodwyd bod y gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid, er bod ganddo broblemau, i sicrhau y cynhelir yr hyfforddiant yn gywir.  Wrth ystyried y gofynion statudol, mae'n hanfodol bod yr elfennau hyfforddiant yn cael eu cysylltu â'i gilydd.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol: