Eitem Agenda

Cynnig 1

Cynigiwyd gan:                       Y Cynghorydd Dilwar Ali

 

Eiliwyd gan:     Y Cynghorydd Norma Mackie

 

Cefndir

Gwybyddir bod Caerdydd yn ddinas sy’n hoff iawn o g?n ac mae llawer o’n trigolion yn talu llawer o arian am y ci bach o'u dewis, weithiau miloedd o bunnoedd. Mae’r hoffter hwn am g?n yn cael ei gamdrin gan berchenogion fferm c?n bach anghyfreithlon sy'n parhau i fridio c?n mewn cyflyrau gwael iawn ac sy’n parhau i’w bridio. Maent hefyd yn creu c?n bach sy’n sâl, sy’n cael eu cymryd o’u mamau’n rhy gynnar, sydd yn aml yn eu hachosi i gael problemau cymdeithasu. Maent yn costio llawer o arian i'w perchenogion newydd o ran biliau milfeddygon er yn aml yn y pen draw mae'r ci bach yn marw neu’n anodd ei reoli. Roedd Lucy yn un o‘r c?n bridio hyn a achubwyd o fferm c?n bach ac mae Lucy's Law yn ymgyrch i wahardd trydydd partïon rhag gwerth c?n bach i helpu i stopio hyn.

 

Mae Cartref C?n Caerdydd, gwasanaeth a redir gan Gyngor Caerdydd, yn gorfod rhoi cartref i’r c?n bach hyn a thrio dod o hyd i gartref newydd parhaol iddynt. Rydym yn gwybod bod nifer cynyddol o ffermydd c?n bach anghyfreithlon mewn ardaloedd yng ngorllewin Cymru yn defnyddio trydydd partïon i werthu'r c?n bach a bod c?n bach yn cael eu gwerthu yng Nghaerdydd.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i wahardd trydydd partïon rhag gwerthu c?n bach yn Lloegr ac mae tri Aelod Seneddol yn gofyn i Lywodraeth Cymru i wneud hyn hefyd oherwydd heb Lucy’s Law, bydd c?n bridio ffermydd c?n bach anghyfreithlon a’u c?n bach yn parhau i ddioddef y tu ôl i ddrysau wedi’u cais dan ddwylo pobl sy’n rhoi elw cyn llesiant anifeiliaid.

 

Cynnig

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Arweinydd Cyngor Caerdydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn cefnogi’r galw am gamau gweithredu brys i wahardd trydydd partïon rhag gwerthu c?n bach.

 

 

Dogfennau ategol: