Eitem Agenda

'Achub ar y Cyfle' Siapi cwricwlwm newydd i Gymru - Briff ar Lafar

Derbyn briff ar lafar; trosolwg o Gonfensiwn Addysg Caerdydd a'i ganlyniadau – 23 Hydref 2018.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes), Suzanne Scarlet (Rheolwr Perfformiad) a Natalie Stork (Swyddog Perfformiad a Gwybodaeth) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr i wneud datganiad byr. Rhoddwyd cyflwyniad i’r Aelodau, ‘Llunio cwricwlwm newydd i Gymru', a dangoswyd clip iddynt o un o’r siaradwyr, Victor Ciunca o’r Cyngor Ieuenctid, yn annerch y gynulleidfa yng Nghynhadledd Addysg Caerdydd ar 23 Hydref 2018.<0}

 

Gwahoddwyd Aelodau i roi sylwadau, gofyn am eglurhad pellach neu holi cwestiynau ynghylch y cyflwyniad. Mae’r trafodaethau hynny wedi’u crynhoi isod:

 

  •  

Gofynnodd Aelodau a fydd graddau, hyd yn oed gyda phedwar diben allweddol y cwricwlwm newydd, yn parhau i gymell plant yn yr ysgol a chyflogwyr. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr arfer mewn ysgolion cynradd yn debyg iawn i ddelfryd Dyfodol Llewyrchus – yr her fwyaf yw ailystyried addysg uwchradd. Nododd Aelodau fod CBAC yn gobeithio dechrau sgwrs ag ysgolion ac awdurdodau lleol i ddatblygu system brofi newydd.

 

  •  

Holodd Aelodau ynghylch yr hyn sy’n digwydd i’r rhai sy’n cael eu gadael ar ôl os nad yw cyflogwyr ac ysgolion yn symud ymlaen ar yr un cyflymdra. Nododd swyddogion eu bod yn ymwneud â’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol a Bargen Ddinesig Caerdydd wrth ystyried cynyddu sgiliau’r gweithlu presennol. Mae angen rhoi sylw gofalus i’r gr?p oedran ôl-16. Y gobaith yw y bydd y Fargen Ddinesig yn datblygu rhaglen i ysgogi dysgwyr. Mae’n bwysig nodi a rhannu cyfleoedd.

 

  •  

Bu’r Aelodau’n trafod y trefniadau asesu. Mae’n bwysig sicrhau na chaiff cwricwlwm blaengar ei ddylunio ond i gael ei ddilyn gan broses asesu hynafol. Mae peth gwaith yn cael ei wneud ar asesiadau sy’n seiliedig ar gymhwysedd yn hytrach na chynnal asesiadau ar y pwyntiau trothwy tyngedfennol yn ystod gyrfa ysgol. Fodd bynnag, nodwyd bod gormod o ffocws o hyd ar arholiadau; efallai y dylid holi Cymwysterau Cymru am hyn. Mae angen iddynt osgoi ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yn system addysg yr Alban.

 

  •  

Bu’r Aelodau’r trafod y daith addysg a diwygio yng Nghymru ond nodwyd na chaiff canlyniadau Pisa eu cyhoeddi tan y flwyddyn nesaf. Nododd Aelodau ei bod yn bwysig hefyd y ceir hyder yn y system addysg gan bob sector; os na cheir, ni fydd yn para.  

 

  •  

Bu’r Aelodau’n trafod pwysigrwydd dysgu trwy ryngweithio a’r ffaith fod angen cynnwys hynny yn y cwricwlwm. Mewn bywyd mae unrhyw beth a wnawn yn cael ei wneud ar y cyd – mae angen newid perthnasoedd cymdeithasol ym myd addysg, ac yna bydd angen ystyried sut i’w asesu.   

 

Lluniodd y Cyngor Ieuenctid Adroddiad Cwricwlwm am Oes bedair blynedd yn ôl; mae angen ei wreiddio mewn ysgolion bellach. Mae gwahaniaeth rhwng yr hyn yr oedd ysgolion yn meddwl eu bod yn ei wneud i ddisgyblion a’r hyn yr oedd disgyblion yn meddwl bod ysgolion yn ei wneud iddyn nhw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: