Eitem Agenda

Dinas sy’n Dda i Blant Caerdydd – Strategaeth Ddrafft

Ystyried yr adroddiad ar gynnydd y gwaith o ddatblygu rhaglen i wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant trwy weithio gydag Unicef, ynghyd ag yn unol â’r strategaeth ddrafft wedi’i datblygu gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, cyn ei chymeradwyo.

 

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes), Lee Patterson (Swyddog Addysg Gymunedol) a Marianne Mannelo (Cyfarwyddwr Polisi, Chwarae Cymru) i’r cyfarfod. 

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Merry gan y Cadeirydd i wneud datganiad lle nododd fod y rheswm dros ystyried strategaeth o’r fath yn ymwneud i raddau helaeth â’r mesurau cyni a’r toriadau mewn cyllid a’i bod yn hanfodol ystyried a diogelu anghenion y plant mwyaf diamddiffyn ac y caiff gwasanaethau eu dylunio i fod yn addas ar eu cyfer.  Rhaid ymgynghori â phlant am yr hyn sy’n cael ei gynnig. 

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr bwysigrwydd y rhaglen a phwysigrwydd gwaith partneriaeth cryf.  Ymrwymodd y Cabinet i’r rhaglen Dinas sy’n Dda i Blant ym mis Mawrth 2017. Er y cafwyd cynnydd sylweddol o ran cyfranogaeth a phartneriaethau, prin yw’r ffocws ar yr hyn y bydd y rhaglen hon yn ei wneud; mae’n bwysig dangos ein bod wedi gwneud gwahaniaeth i berson ifanc yng Nghaerdydd. Mae’r ffocws hwnnw bellach wedi ffurfio sail i strategaeth.  Yn y cyflwyniad Gweithio tuag at Ddinas sy'n Dda i Blant, amlinellwyd datblygiad y rhaglen; cyflwyno’r rhaglen hyd yma; y weledigaeth (mae Caerdydd yn ‘lle gwych i gael eich magu’) ar gyfer Caerdydd sy’n Dda i Blant; a’r 5 nod a’r 17 ymrwymiad, sef:

 

Nod 1 – Mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei werthfawrogi, ei barchu a’i drin yn deg;

Nod 2 – Mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i’w farn, ei anghenion a’i flaenoriaethau gael eu clywed a’u hystyried;

Nod 3 – Mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei fagu mewn cartref diogel a chefnogol;

Nod 4 – Mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad i addysg o safon sy’n hyrwyddo ei hawliau ac yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau a’i ddoniau’n llawn;

Nod 5 – Mae gan blant iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da ac maen nhw’n gwybod sut i gadw’n iach.

 

Rhoddodd Marianne Mannelo (Cyfarwyddwr Polisi, Chwarae Cymru) wybodaeth i’r Aelodau am y Cynllun Peilot Cau Ffyrdd i Chwarae ar y Stryd sydd ar waith o hyd, gan nodi bod sefydliad sy’n cefnogi chwarae ar y stryd – o’r enw Playing Out - wedi cysylltu â nhw.  O ganlyniad sefydlwyd cynllun peilot mewn sawl cymuned ym mis Awst 2017 a barodd am 5 mis i ddechrau.  Fe’u cynhaliwyd mewn cymdogaethau lle gellid defnyddio ffyrdd trydyddol a ffyrdd heb draffig bysiau.  Cafodd y ffyrdd eu cau am ychydig oriau bob mis.  Roedd y canlyniadau’n gadarnhaol gyda phlant yn chwarae y tu allan ac yn teimlo’n fwy diogel a rhieni’n dod i adnabod eu cymdogion.  Nid symud y plant rhag perygl yw’r bwriad ond cefnogi rheini i reoli’r asesiad risg.  Gall y model fod yn ymyriad cost niwtral yn y ddinas, er y defnyddiwyd peth cyllid er mwyn darparu siacedi llachar i stiwardiaid.

 

Nododd Aelodau y cynhelir lansiad y Strategaeth Dinas sy’n Dda i Blant yn Neuadd y Ddinas ddydd Mawrth 20 Tachwedd 2018.

 

Gwahoddwyd Aelodau i roi sylwadau, gofyn am eglurhad pellach neu holi cwestiynau ynghylch yr adroddiad.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  •  

Nododd Aelodau fod ffyrdd yn cael eu cau bob mis yn answyddogol yn ward yr Eglwys Newydd a Thongwynlais; y gobaith oedd y gallai hyn ddod yn drefniant swyddogol. Awgrymodd Aelodau fod chwaraeon a cherddoriaeth yn ddulliau eraill y gellid eu defnyddio i annog plant, yn benodol wrth ystyried nifer mawr y grwpiau chwaraeon sydd ar gael.  Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau bod strategaeth gerddoriaeth i’r ddinas yn cael ei hystyried. 

 

Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau am yr anawsterau wrth gael yr awdurdod perthnasol i gau strydoedd at ddiben chwarae; mae ceisiadau i estyn y cynllun peilot wedi cael eu gwrthod, yn benodol oherwydd y broses ddeddfwriaethol y mae angen ymgymryd â hi.  Mae angen yr un broses i gau ffordd am 2 awr neu i gau ffyrdd am wythnos er mwyn ffilmio Doctor Who.  Nid yw’r costau’n gymesur. 

 

  •  

Nododd Aelodau fod plant wedi dweud bod Caerdydd yn teimlo fel dinas ddiogel.  Nid amlygwyd camddefnyddio alcohol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith y pryderon mwyaf difrifol sydd gan blant.  Mae Unicef o’r farn nad oes modd datrys holl broblemau’r ddinas; fodd bynnag, mae’n rhaid gwrando ar bobl ifanc. 

 

  •  

Gofynnodd Aelodau am eglurhad pam nad oedd y geiriau ‘deiet’ a ‘gordewdra’ yn codi; mae’r strategaeth yn defnyddio’r geiriau ‘lles’ ac ‘iechyd meddwl’.  Nododd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd i helpu i lunio polisïau.  Roeddent yn awyddus ei bod yn brif flaenoriaeth i beidio â defnyddio ‘gordewdra’.  Mae lles yn cynnwys bwyd, bwyta’n iach a deiet. Wrth gwrs, dyheadau yw’r rhain ond nid ydynt wedi cael eu nodi’n benodol yn y camau gweithredu. Gall yr Aelodau weld y cynllun gweithredu drafft cynnar.  Nododd Aelodau fod y Cyfarwyddwr yn gadeirydd gr?p y strategaeth; mae gr?p gweithredol ehangach hefyd a Bwrdd Cynghori Pobl Ifanc.

 

Wrth gydnabod bod ysgolion ar flaen y gad o ran bwyd ysgol iach, nododd Aelodau y dylid gwneud ymrwymiad dinas gyfan i leihau amlygrwydd bwyd jync.

 

  •  

Gofynnodd Aelodau a ddylid cyflwyno’r adroddiad blynyddol i’r Cyngor yn ogystal â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Atebodd yr Aelod Cabinet fod problem o ran fformat ac mai menter bartneriaeth ydyw yn hytrach na menter y Cyngor ond, mewn egwyddor, byddai’n syniad da ei rannu. Gofynnodd Aelodau iddo gael ei rannu â’r pwyllgor hwn os nad oes modd ei rannu â’r Cyngor.

 

  •  

Nododd Aelodau mai’r ail nod oedd i bob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i’w farn, ei anghenion a’i flaenoriaethau gael eu clywed a’u hystyried, ond holwyd ynghylch sut mae hyn yn cyd-fynd â threfniadau llywodraethu.  Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau bod rhaid ystyried newid y llywodraethu ac, er bod y bwrdd cynghori’n helpu, mae angen i ragor o blant a phobl ifanc ddal y Cyngor i gyfrif.  Rhaid ystyried sut gellir cynnwys y sector preifat. 

 

Mae angen canolbwyntio hefyd ar bobl ifanc sy’n agored i niwed a’r hyn mae pobl ifanc mewn gofal yn ei ddweud. Er enghraifft, nid ydynt yn gallu cael lifft gyda’u mam neu eu tad sy’n gallu eu rhwystro rhag symud o le i le yng Nghaerdydd, felly cynhelir trafodaethau â Bws Caerdydd yngl?n â hyn. 

 

  •  

Nododd Aelodau fod y digwyddiad ar 20 Tachwedd yn ddathliad o hawliau plant ac nid yw’n ymarfer ymgynghori, er iddynt gredu ei bod yn bwysig bod angen i blant a phobl ifanc wybod ei bwrpas.

 

  •  

Trafododd yr Aelodau reidrwydd cynnwys y sector preifat gan nodi bod angen hyrwyddo’r rhaglen y tu hwnt i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

 

  •  

Holodd Aelodau ynghylch yr ymrwymiad â staff rheng flaen, neu elusennau sydd â rhaglenni ar hyn o bryd gan weithio o ddydd i ddydd yn gwrando ar anghenion plant, a rhoddwyd gwybod iddynt yr ystyrir darparu llwyfan a fforwm ar gyfer rhannu syniadau.  Mae’n rhan o’r cynllun cyflawni. 

 

  •  

Bu’r Aelodau’n trafod budd rhannu arfer gorau, o gofio nifer y cynghorau yn y DU sydd ar y daith hon.  Nodwyd bod y cydlynwyr yn cael eu dwyn ynghyd gan Unicef yn rheolaidd; Caerdydd yw’r ddinas gyntaf i lunio darn o waith.  Gellir rhannu gwybodaeth hefyd trwy borth sy’n gronfa wybodaeth. 

 

  •  

Holodd Aelodau ynghylch ariannu’r strategaeth a rhoddwyd gwybod iddynt mai cyfanswm y gost oedd £80k, gan gynnwys holl gostau staff, gweithredu ac ati, sy’n cynnwys £25k i Unicef.

 

  •  

Bu’r Aelodau’n trafod yr angen i sicrhau bod y Pwyllgor ac Aelodau eraill yn cyflawni’r holl hyfforddiant mae Unicef yn ei gynnig.  Mae’n bwysig bod wir ddealltwriaeth o ystyr hawliau plant. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i Lee Patterson am ei waith caled gan ofyn iddo roi adroddiadau rheolaidd am gynnydd o ran gweithredu’r strategaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: