Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Philippa Hill-John
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Joel Williams
O ystyried yr effaith fawr a gaiff proses y CDLl ar y ddinas dros y 10 mlynedd nesaf, rydym yn galw ar y cyngor hwn i ystyried a chymeradwyo'r cynnig fel a ganlyn:
· |
Dylai'r Adroddiad Monitro CDLl blynyddol ddod gerbron y cyngor llawn i'w ystyried a'i adolygu. Dylai fanylu ar y cynnydd yn erbyn y targedau a osodwyd, y tai a werthwyd ac a yw'r trothwyon ar gyfer y mesurau seilwaith allweddol yn cael eu cyrraedd; a
|
· |
Dylid mabwysiadu a gweithredu strategaeth gyfathrebu drosfwaol fel modd o roi gwybod i breswylwyr am gamau allweddol y CDLl, gan gynnwys pwynt gwybodaeth canolog i sicrhau tryloywder ac eglurder; a
|
· |
dylid neilltuo swyddog penodol i gydgysylltu a goruchwylio proses gyfan y CDLl ar gyfer y ddinas a dylai fod ar gael i gysylltu ag aelodau etholedig a chyrff cynrychioliadol; a
|
· |
dylid cynnal adolygiad ar unwaith i sicrhau bod cyfran o'r cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu yn diwallu anghenion y boblogaeth h?n sy'n cynyddu a bod polisïau ar waith i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i'w prynu yn ogystal â'u rhentu; a
|
· |
dylid cynnwys adnewyddu'r lletem las yng Ngogledd a Gogledd-orllewin Caerdydd, a fydd yn dod i ben gyda'r LDP yn 2026; neu ddarparu llain las lawn newydd ar gyfer yr ardal hon, mewn unrhyw system gynllunio ranbarthol newydd er mwyn sicrhau bod y cefndir pwysig hwn yn cael ei gadw ym mhrifddinas Cymru am genedlaethau i ddod.
|
Dogfennau ategol: