Eitem Agenda

Model Cyflawni Newydd ar gyfer Help a Chymorth i Deuluoedd yng Nghaerdydd – Adroddiad Cabinet Drafft

Ystyried ac adolygu Adroddiad Cabinet Drafft ar fodel cyflawni newydd ar gyfer Help a Chymorth i Deuluoedd yng Nghaerdydd cyn cyfarfod y Cabinet ar 11 Hydref 2018.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet – Plant a Theuluoedd), Sarah McGill (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau), Claire Marchant (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol) a Jane Thomas (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Tai a Chymunedau) i’r cyfarfod.   

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Hinchey i wneud datganiad wnaeth nodi bod y MASH wedi'i gyflwyno yn 2016. Roedd llai na 20% o atgyfeiriadau MASH yn symud ymlaen i ymyrraeth gan y Gwasanaethau Plant; Sail y model newydd yw dod â gwasanaethau presennol ynghyd i fod yn dri gwasanaeth newydd, un o'r rhain yw'r porth teulu sef y prif lwybr i bob atgyfeiriad a chais am gymorth.  

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwyr a’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol gyflwyniad i’r Aelodau,

Gwella Canlyniadau i Blant: Help a Chymorth Teuluol

 

Gwahoddwyd yr aelodau gan y Cadeirydd i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

 

Gofynnodd yr Aelodau sut roedd swyddogion yn mynd i fynd ar ôl y rheiny oedd yn siarad ieithoedd eraill, gan ofyn am yr hyfforddiant fyddai’n cael ei gynnig. Nododd y swyddogion y byddai staff sy'n siarad Cymraeg a staff oedd yn siarad ieithoedd cymunedol yn cael eu recriwtio, a byddai staff wastad yn cael mynediad at y linell ieithoedd.  Roedd ystod eang o ieithoedd yn cael eu siarad yn yr hybiau, ac roedd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru bellach yn rhan o swyddogaeth C2C, ac roeddent yn cynnig cymorth ieithyddol yng Nghaerdydd a gydol Cymru.  Byddai tîm datblygu’r gweithlu; byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu a’i werthuso, drwy archwilio, gwrando ar alwadau ffôn a byddai Fframwaith Sicrwydd Ansawdd yn cael ei rhoi ar waith.  Roedd yn bwysig bod bob aelod o staff yn ymwybodol o'r help sydd ar gael.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod llawer o bobl wedi mynychu’r gweithdy aml-asiantaeth ar 24 Medi, gyda dros 45 o gynrychiolwyr o nifer o sefydliadau.  Fodd bynnag, nododd yr Aelodau nad oedd ymateb wedi’i dderbyn gan bob un o’r cynrychiolwyr oedd wedi’u gwahodd.

 

Cafodd aelodau sicrwydd y byddai'r rhif ffôn cyswllt yn cael ei rannu’n eang. 

 

Trafododd yr Aelodau’r trefniadau TUPE Teuluoedd yn Gyntaf, a chawsant wybod bod rhai aelodau staff oedd wedi trosglwyddo’n unol â’r trefniadau eraill wedi gadael, a bod rhai eraill heb adael, fodd bynnag roedd y rheiny oedd dal yno wedi mynd ar lawer o hyfforddiant.  Holodd yr Aelodau faint o deuluoedd oedd wedi elwa ar ymyrraeth gyda’r staff hynny oedd wedi trosglwyddo’n unol â’r trefniadau TUPE a chawsant wybod y byddai gwybodaeth yn ei rhannu.  Cafodd yr Aelodau wybod er na fyddai’r ffigyrau penodol yn wybyddus nes bod y broses ar ben, disgwylir y bydd oddeutu 15 o aelodau staff T? Storrie'n trosglwyddo'n unol â threfniadau TUPE.

 

Ceisiodd yr Aelodau eglurder ynghylch pam oedd 51.8% a gyfeiriwyd at MASH heb arwain at unrhyw gamau gweithredu.  Cafodd yr Aelodau wybod gan y Swyddogion am y rhesymau; roedd y rhai’n alwadau sy’n cael eu gwneud i leoli a siarad â Gweithwyr Cymdeithasol, ac mae rhai’n atgyfeiriadau gan yr heddlu, sydd at ddibenion gwybodaeth yn unig.  Mae’n bwysig bod monitro data eglur.  

 

Nododd yr Aelodau er y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i fantoli'r cyllid o £500k er mwyn gweithredu'r model, disgwylir y byddai angen cyllid blwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd y byddai’r trosglwyddiad i’r model darparu newydd yn rhwydd.  Rhoddodd y swyddogion wybod y byddai staff yn cael eu recriwtio ac yn cael hyfforddiant cyn i’r model newydd fod yn weithredol; bydd yn wasanaeth newydd i rai ond i bobl eraill bydd yn barhad o'u gwaith presennol.  Hyd yma, nid yw’r Cabinet wedi gwneud penderfyniad, unwaith y bydd penderfyniad byddai ymgynghoriad gyda’r Undebau Llafur yn cael ei gynnal.

 

Trafododd yr Aelodau codi cyrhaeddiad a pha mor bwysig oedd sicrhau bod plant yn mynd i'r ysgol, wedi cael brecwast, yn lân ac yn mynd i'r ysgol ar amser.  Gall ymyriadau mewn perthynas â rhianta, incwm, cyngor ar ddyledion a thai gael effaith ar blentyn yn mynd i’r ysgol yn barod i ddysgu yn seicolegol.  Mae angen ystyried rheoli perfformiad mewn ysgolion, e.e. gwaharddiadau a’r rhesymau dros yr ymddygiad hedfan neu ymladd.  Mae’n rhaid lleihau’r straen y maent yn ei brofi.  

 

Ceisiodd yr Aelodau eglurder ar y dystiolaeth sy’n awgrymu nad oedd diwylliannau eraill yn adrodd na’n ymgysylltu â’r gwasanaeth.  Nododd y Swyddogion bod pobl o gefndiroedd ethnig penodol yn llai tebygol o ofyn am gymorth, yn benodol pan fo'r cymorth hwnnw'n ymwneud â rhyw fath o drais domestig.  Mae’n bwysig adeiladu ymddiriedaeth gyda phobl o gefndiroedd ethnig gwahanol, sy'n cymryd amser, mae hefyd yn help i fod ag aelodau staff o gefndiroedd ethnig gwahanol.  Nododd yr Aelodau bod atgyfeiriadau’n anodd o ddwyrain y Ddinas.

 

Nododd yr Aelodau amrywiaeth y ddarpariaeth ledled y ddinas sy’n gwneud delio â galwadau’n dasg anodd. Roeddent yn pryderu a oes gennym y patrwm cywir o ddarpariaeth.  Nododd y Swyddogion bod y Gwasanaethau Gwybodaeth yn hanfodol bwysig. Mae’n bwysig bod teuluoedd yn cael eu hannog i ddefnyddio'r rhif ffôn i alluogi'r awdurdod i ddeall anghenion y teulu i sicrhau bod y math cywir a'r lefel cywir o gymorth ar gael.  Nodwyd mewn rhai ardaloedd does dim digon o ddarpariaeth, ac mae gormod mewn rhai eraill.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod er y croesawir ymyriad Comisiynydd Pobl Ifanc, nid oes ei angen ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, pan fo manylion pellach ar gael, bydd rhagor o ymgynghoriad.  Mae’r swyddogion yn nodi bod llais pobl ifanc a’r teulu’n bwysig iawn, ynghyd â’r camau gwahanol o ymgynghori a gweithredu.

 

Roedd yr Aelodau’n poeni a oedd y dyddiad gweithredu ym mis Ebrill 2019 yn realistig ac a fyddai modd ei gyflawni. Nododd y Swyddogion bod y contractau presennol yn gorffen ar 31 Mawrth, ac felly mae'n rhaid i'r gwasanaethau craidd fod ar waith erbyn hynny, er y disgwylir y bydd angen i'r gwasanaeth barhau i ddatblygu.  Mae’n hanfodol bod y model a ddatblygir yn addas at y diben.  

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y Ffordd Ymlaen.

 

Dogfennau ategol: