English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig

Cynigiwyd gan:           Y Cynghorydd Joe Boyle 

 

Eiliwyd gan:                 Y Cynghorydd Ashley Wood 

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:

 

·         Pleidleisiodd 60% o drigolion Caerdydd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, y gyfran bleidlais aros uchaf yng Nghymru gyfan;

·         Mae 61% o allforion Caerdydd yn mynd i wledydd yr UE, gan roi Caerdydd o fewn y pum dinas Prydeinig sydd yn fwyaf dibynnol ar farchnadoedd y DU;

·         Mae gan Gaerdydd gynlluniau i adeiladu 40,000 o dai newydd ar adeg lle mae diwydiant adeiladau’r DU yn dibynnu ar ddinasyddion yr UE am 8% o’i weithlu;

·         Ers 2014 mae Cyngor Caerdydd wedi cefnogi 26 o brojectau buddsoddi unongyrchol tramor gan gwmnïau o 12 gwlad, 7 ohonynt yn Aelod Wledydd yr UE, gan arwain at greu a diogelu 3,958 swydd lleol;

·         Fe wnaeth gwaith a ymgymerwyd gan y Ganolfan dros Ddinasoedd amcangyfrif y bydd Brexit ‘meddal’ yn lleihau Gwerth Ychwanegol Crynswth Caerdydd gan 1.3% lle byddai Brexit ‘caled’ yn ei lleihau gan 2.5% a hyd at 2.73% yng Nghaerdydd;

·         Mae bron i 3,000 o fyfyrwyr yn y ddinas-ranbarth o’r UE, bron i 4% o’r boblogaeth myfyrwyr gyfan;

·         Ymgeisiodd Cyngor Caerdydd yn llwyddiannus yn 2016 am tua €1.7m o gyllid o’r rhaglen Erasmus+ ar gyfer wyth project a oedd yn cynnwys consortia o ysgolion ledled Cymru;

·         Yn 2017, cydlynodd Cyngor Caerdydd rhaglenni Erasmus+ a oedd wedi sicrhau €8.6m ar gyfer projectau ledled Cymru;

·         Ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn unig, byddai sicrhau mynediad yn y dyfodol at olynydd Horizon 2020 yn diogelu incwm ymchwil o dros £10 miliwn y flwyddyn a chynorthwyo canolfannau byd-flaengar fel y Ganolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd;

·         Nododd adroddiad 2018 o’r Adran Iechyd fod staff o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn cyfateb i 7% (90,000) o’r gweithlu gofal cymdeithasol oedolion; Tyfodd y nifer hynny gan 32,000 (mwy na 50%) rhwng 2012-13 a 2016-17;

·         Mae gweithwyr o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd hefyd o fewn meysydd eraill, 15% o ddeintyddion, 9.1% o feddygon a 5.5% o nyrsys a bydwragedd. Mae’r nifer o nyrsys a bydwragedd o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd wedi cofrestru wedi mwy na dybli rhwng 2013 a 2017, o 16,798 i 38,024;

·         Mae’r ffigyrau diweddar o’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn dangos bod y nifer o nyrsys newydd sy’n do o’r UE i weithio yn y DU wedi gostwng 87% o 6,382 yn 2016/17 i 805 yn 2017/18 ac mae’r mewnlif o nyrsys o wledydd tu allan i’r UE heb gynyddu digon i gydbwyso’r colled.

·         Rhaid i Aelodau Etholedig gael y cyfle i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol pan fod y polisi hwnnw yn sicr o effeithio ar y ddinas maent yn cynrychioli.

 

Mae’r Cyngor yn penderfynu:

 

1.     Bod y Cyngor yn archwilio pa rwymedigaethau sydd gan Lywodraeth y DU i roi gwybodaeth a dadansoddiad adrannol y Llywodraeth i Gyngor Caerdydd, hyd yn oed os bernir eu bod yn gyfrinachol, am yr effaith y byddai tynnu allan y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar Cymunedau a busnesau.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.