Eitem Agenda

Gwybodaeth am Reoli Perfformiad y Gwasanaethau Plant – Adroddiad Chwarter 1

Ystyried ac adolygu data perfformiad a chamau rheoli’r Gwasanaethau Plant ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Claire Marchant, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Irfan Alam Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod.

 

Cafodd yr Aelodau gyflwyniad ar Berfformiad Gwasanaethau Plant yn Chwarter 1 ac yna gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau.

 

Gofynnodd yr Aelodau faint o leoedd fyddai ar gael yn y pum cartref newydd i blant.  Cynghorodd swyddogion y byddai tua 20 o leoedd ar gael i blant sydd ar hyn o bryd mewn lleoliadau preswyl, rhai ohonynt y tu allan i'r Sir.  Nodwyd na fyddai mwy na phum gwely i bob cartref.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr eu bod yn gweithio ar strategaeth gomisiynu ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal ar y cyd i edrych ar y ddarpariaeth yn y dyfodol, gan gynnwys mathau o ddarpariaeth, tymor byr/argyfwng a darpariaeth gam-i-lawr tuag at ofal maeth.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at yr asesiadau cymesur a gofyn a fyddai'n werth ystyried amserlen lai cyfyngol ar gyfer y gr?p hwn o staff.  Dywedodd swyddogion eu bod wedi rhoi cynnig ar wahanol ddewisiadau o ran rheoli'r system ddyletswydd, ond oherwydd nifer yr atgyfeiriadau, mae angen nifer benodol o staff ar unrhyw un adeg; oni bai bod llai o alw ni fyddai'r pwysau'n newid, bydd y ddarpariaeth cymorth cynnar yn helpu wrth symud ymlaen ond ni fydd yn lleihau'r pwysau yn syth.

 

Gofynnodd yr Aelodau am swyddi gwag ac os cynhaliwyd cyfweliadau ymadael i ganfod pam yr oedd pobl yn gadael.  Dywedodd swyddogion fod cyfweliadau ymadael yn cael eu cynnal a bod y rhan fwyaf o bobl yn gadael gan fod pwysau derbyn ac asesu ac amddiffyn plant yn eu blino’n lân.  Nodwyd bod llawer o bobl yn symud i wahanol rannau o'r gwasanaeth lle nad yw'r galw mor uchel.  Gofynnodd yr Aelodau a oedd gwahaniaeth yn y graddfeydd cyflog ar gyfer y rheini a oedd yn y rolau pwysedd uwch a dywedwyd nad oedd gwahaniaeth.

 

Bu'r Aelodau'n trafod Asiantaethau Maethu Annibynnol a nodwyd nad yw'r gofalwyr maeth yn cael mwy o dâl na'r rhai sy'n gweithio gyda'r Cyngor, ond bod angen mwy o anogaeth i sicrhau bod gofalwyr maeth yn gweithio gyda'r cyngor a bod angen i'r Cyngor fod mor effeithiol fel busnes ag yw’r Asiantaethau Maethu Annibynnol.  Nododd yr Aelodau fod gan Gaerdydd enw gwael yn y gorffennol am faethu a bod yr Asiantaethau Maethu Annibynnol yn manteisio ar hynny ac yn targedu Caerdydd.  Nododd yr Aelodau fod dros 20 o ddarparwyr wedi'u lleoli yng Nghaerdydd.  Eglurodd swyddogion fodel yr Alban lle nad yw maethu wedi bod yn ddarpariaeth elw ers 15 mlynedd, felly nid oes unrhyw sefydliadau sy'n cael gweithredu a gwneud elw, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n edrych ar hyn ar hyn o bryd.  Dywedodd y Cadeirydd yr hoffai gael cynnig ar draws y pleidiau i gefnogi hyn.

 

Gofynnodd Aelodau am nifer yr atgyfeiriadau Heddlu ac a oedd hyn o gymorth neu a oedd angen mwy o hyfforddiant.  Eglurodd swyddogion ei bod yn anodd gan nad oes angen i rai atgyfeiriadau ddod ond y gallent yn y dyfodol a hefyd fod ond angen i rai cael eu cofnodi.  Yr hyn yr oedd ei angen oedd system gydgysylltiedig y gall y Cyngor a'r Heddlu ei defnyddio, ond rhywbeth ar gyfer y dyfodol fyddai hynny.

 

Trafododd yr Aelodau'r farchnad faethu ac esboniodd swyddogion fod angen marchnata wedi'i dargedu, roedd angen i'r cynnig fod yn glir, roedd angen model busnes ac roedd y tîm yn ymrwymedig i ymateb yn gyflym; roedd yn bwysig bod modd rheoli'r llog pe bai'n cynyddu.

 

Gofynnodd yr Aelodau pa waith oedd yn cael ei wneud gyda phartneriaid eraill i yrru cyfeiriadau deallus trwy gyfrwng Profiadau Plentyndod Negyddol.  Dywedodd swyddogion y gall Profiadau Plentyndod Negyddol ychwanegu at atgyfeiriadau wrth i'r Heddlu flaenoriaethu Profiadau Plentyndod Negyddol, nodwyd y byddai Cymorth Cynnar, gwydnwch ac ymyrraeth yn helpu ond ar hyn o bryd does unman arall i fynd.

 

Gofynnodd yr Aelodau pa gymorth oedd yn cael ei gynnig i rieni mabwysiadol.  Dywedodd swyddogion fod trefniant ar waith gyda rhaglen mabwysiadu gydweithredol Bro Morgannwg, Merthyr a Rhondda Cynon Taf, a swyddogaeth benodol ar gyfer cymorth ôl-fabwysiadu.  Roedd y Cyfarwyddwr o'r farn y gallai'r dadansoddiad o drefniadau mabwysiadu fod yn Ddangosydd Perfformiad Allweddol ac bod angen buddsoddi mewn cymorth mabwysiadu drwy gyfnodau pontio mewn bywyd.

 

Nododd Aelodau fod rhai pobl yn cael eu helpu i beidio â maethu gan fod y cyfweliad mor ddwys, esboniodd y swyddogion fod angen i Dderbyn ac Asesu fod yn gadarn gan fod angen i bobl wybod beth sy'n cael ei gynnwys.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai yna gap ar y pris mewn perthynas â phartneriaethau â Bro Morgannwg, ac fe'u hysbyswyd bod y ffioedd yn cael eu hystyried yn rhanbarthol er mwyn cysoni'r ffioedd.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Iechyd Meddwl a Lles ar gyfer pobl ifanc yn gofyn a fyddai'r Gwasanaethau Plant yn gallu cynnig rhywun i eistedd ar y gr?p.  Cynghorodd swyddogion y byddai.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y Ffordd Ymlaen.

 

 

Dogfennau ategol: