Eitem Agenda

Adroddiad Dros Dro ar Berfformiad Ysgolion Caerdydd 2017

Derbyn canlyniadau dros dro Lefel A a TGAU ar gyfer 2017/18

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes), Suzanne Scarlet a Natalie Stork (Perfformiad a Rheoli Gwybodaeth) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Sarah Merry wneud datganiad lle nododd y materion sy'n parhau o ran canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ond pwysleisiodd mai carfan fechan iawn o ddisgyblion sydd; mae pryderon tebyg ar gyfer disgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol a disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim fel y bu mewn blynyddoedd blaenorol, ond roedd hwn yn fater cenedlaethol. Roedd Caerdydd yn perfformio'n dda o gymharu â rhai rhannau o Gymru ond roedd lle i wella ac roedd y canlyniadau'n gadarnhaol ar y cyfan.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr y byddai darlun mwy diffiniol ar gael ym mis Ionawr.  Nodwyd bod y system hunanwella a sefydlwyd drwy'r consortiwm yn helpu perfformiad yn gyffredinol a bod angen dathlu hyn gan barhau i gydnabod bod mwy i'w wneud.  Ychwanegodd fod y darlun mewn ysgolion cynradd yn cryfhau ac yn gryf ond bod dal angen canolbwyntio ar 'bob dysgwr' yn enwedig y bobl ifanc sydd wedi symud o gwmpas yn y system, sy'n profi ffactorau cymdeithasol y tu allan i'r ysgol neu sydd wedi'u haddysgu gartref ac ati.  Roedd yn cydnabod bod yna leiafrif o ddisgyblion nad yw'r system yn gweithio iddynt ac nad yw’r rhai oddi ar y gofrestr yn perfformio'n dda.  Byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad perfformiad blynyddol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Gwahoddwyd yr aelodau gan y Cadeirydd i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.

 

Gofynnodd yr Aelodau beth oedd y rhesymau pam roedd plant yn cael eu haddysgu y tu allan i'r lleoliad prif ffrwd.  Cynghorodd swyddogion fod amrywiaeth o resymau gan gynnwys anghenion addysgol arbennig, Dysgu yn y Cartref Dewisol, y rhai nad ydynt yn gallu llwyddo mewn lleoliadau prif ffrwd oherwydd materion iechyd neu gymdeithasol a'r disgyblion hynny nad ydynt yn gweddu i leoliad y cwricwlwm ac sydd angen cynnig mwy galwedigaethol.

 

Trafododd yr Aelodau beth sydd angen ei wneud i atal disgyblion rhag gadael lleoliadau prif ffrwd a nododd swyddogion fod angen cael her a chymorth i ysgolion sydd â phobl ifanc mewn perygl o adael, ond bod angen dulliau adferol a chyfryngu hefyd, mwy o dryloywder a bywiogrwydd yn y mecanwaith atgyfeirio a golwg manylach ar y prosesau i sicrhau nad oes lleiafrif o ysgolion yn cael yr holl bobl ifanc sy'n anodd eu rheoli.  Roedd pawb yn cytuno bod rôl i'r Llywodraethwyr yn hyn hefyd.

 

Nododd yr Aelodau fod 39.5% o ddisgyblion Caerdydd yn symud ymlaen i astudio Lefel A ac yn gofyn sut mae hyn yn cymharu ag awdurdodau eraill.  Dywedodd swyddogion fod y gyfradd genedlaethol yn 40% felly roedd Caerdydd yn unol â hynny.

 

Gofynnodd yr Aelodau beth oedd gweddill y garfan yn ei wneud a chynghorodd swyddogion eu bod yn edrych ar gyrchfannau yn yr Hydref ac yna'n categoreiddio'r wybodaeth, ond yn gyffredinol roedd amrywiaeth o gyrchfannau fel coleg a hyfforddiant.  Cytunodd swyddogion i ddod â'r wybodaeth hon yn ôl yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd Aelodau at blant sy'n symud ysgol a nodwyd y gallai rhai plant fod yn Blant sy'n Derbyn Gofal a phlant sy'n symud o fewn gofal maeth neu symud ardal, a gofynnwyd am ddadansoddiad o'r ffigurau hyn.  Cytunodd swyddogion i ddod â'r wybodaeth hon yn ôl i'r Pwyllgor.

 

Nododd yr Aelodau'r dadansoddiad o rywedd yn y ffigurau perfformiad ond gofynnwyd a oedd unrhyw ddadansoddiad demograffig arall, fel ethnigrwydd, ar gael.  Eglurodd swyddogion fod y wybodaeth honno ganddynt ac y byddai yn yr Adroddiad Blynyddol ym mis Ionawr.  Roedd dadansoddiadau yn ôl gr?p ethnig, SIY ac ati ac roedd pob ysgol wedi'i phroffilio yn ôl nodweddion, ac yna roedd yr ymgynghorwyr her yn y consortiwm yn trafod unrhyw faterion gyda'r ysgolion unigol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at ddisgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch pwy sy'n cael mynediad i ddarparwyr a thiwtora cartref, a oedd diffyg darparwyr ac a oedd y capasiti'n ddigonol.  Eglurodd swyddogion nad oeddent yn hapus bod gormod o bobl ifanc yn methu â chyflawni'r canlyniadau craidd.  Roeddent o'r farn y gellid lleihau'r amrywiaeth o ddarparwyr ac y gellid cael dull mwy pendant o borthgadw o ran pwy sy'n cael eu defnyddio a mwy o ddeialog ynghylch sut y maent yn gweithio gyda'r Cyngor.  Roedd aelodau o'r farn y dylid cael mwy o onestrwydd a ffocws o amgylch y rhai sydd angen defnyddio'r gwasanaeth.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y Ffordd Ymlaen.

 

Dogfennau ategol: