Papurau i'w dilyn |
|
(a) |
Bydd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd, Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau yn cael ei gwahodd i wneud datganiad. Bydd Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg, a Michele Duddridge-Hossain, Rheolwr Gweithredol – Cynllunio a Darpariaeth, ar gael i gyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau’r Aelodau; |
(b) |
Cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor;
|
(c) |
Bydd y ffordd ymlaen yn cael ei hystyried ar ddiwedd y cyfarfod.
|
Cofnodion:
Dychwelodd y Cynghorydd Bridgeman yn ôl i’r Gadair.
Cafwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorwyr Bridgeman a Joyce am eu bod yn gynghorwyr dros ward Llanrhymni.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) a Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) i’r cyfarfod.
Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod yn cydnabod bod cyflwyno cynllun i gau ysgol ddim yn hawdd, yn enwedig mewn cymuned lle mae’r ysgol uwchradd hefyd wedi cau. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn darpariaeth o ansawdd a’r amgylchedd dysgu gorau.
Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau ar ran aelodau o'r cyhoedd. Ymatebodd swyddogion fel a ganlyn:
|
Mae lles plant yn holl-bwysig; ar ddiwedd y cyfnod ymgynghorol mae’n bosib y daw i’r amlwg bod ysgolion eraill gwell ag amodau gwell i’w cael;
|
|
Mae lleoedd ar gael mewn ysgolion eraill yn yr ardal a bydd y tîm yn gweithio'n agos gyda rhieni i'w cadarnhau;
|
|
Gwneir pob ymdrech i gynnwys brodyr a chwiorydd yn yr un ysgol - yr ysgolion agosaf yw Bryn Hafod, Pen y Bryn a Sant Cadog. Ni fyddai'n ofynnol i fynychu Ysgol Gatholig.
|
|
Yn ôl tystiolaeth ddaeth i law drwy’r broses dderbyn, o’r 478 o blant oed cynradd oedd yn byw yn y dalgylch yn Ionawr 2017, roedd 133 yn mynychu'r ysgol.
|
|
Mae’r ysgol yn un o’r ardaloedd difreintiedig hynny lle mae angen ymateb os oes niferoedd llai mewn ysgol. Mae plant yn haeddu cael yr addysg orau bosib. Mae diffyg yn y gyllideb a bach iawn o arian ar gyfer atgyweiriadau. Y nod yw amharu cyn lleied â phosib. Cytunwyd ar gynllun i ad-dalu’r ddyled, ond gyda nifer y disgyblion fel y mae, mae'n anodd iddyn nhw gadw ar ben y ddyled - mae peryg iddo gynyddu.
|
|
Bu peth buddsoddiad yn yr ysgol yn ddiweddar - cafodd y to ei drwsio. Ond mae angen buddsoddiad sylweddol.
|
|
Byddai’r gost o adleoli darpariaeth Dechrau'n Deg yn dibynnu’n fawr ar y lleoliad. Y bwriad fyddai i'r ddarpariaeth honno aros yn lleol. Gan nad oes penderfyniad wedi’i wneud, ni ellir darparu manylion unrhyw gostau. |
Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
|
Nododd aelodau bod nifer o leoedd gwag wedi bod yn yr ysgol ers peth amser. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio canfod barn y rhieni am yr ysgol ond ar hyn o bryd mae’n ymddangos eu bod yn credu bod ysgolion eraill yn cynnig darpariaeth well.
|
|
Nododd Aelodau nad oes llawer o bellter rhwng yr ysgolion, ac mae’n amlwg bod rhieni eisoes yn teithio i ysgolion eraill yn yr ardal beth bynnag.
|
|
Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau bod gan Ysgol Sant Cadog 1.5 dosbarth mynediad ar hyn o bryd, ond deellir bod lle yn yr ysgol i gynnwys 2 ddosbarth mynediad a bod hynny’n cael ei ystyried.
|
|
Gofynnodd Aelodau am fwy o eglurder yngl?n â pha mor gywir yw’r amcanestyniad am leoedd yn y dyfodol a’r lefel o fuddsoddiad cyfalaf sydd ei angen. Clywodd yr Aelodau bod amcanestyniadau ar gyfer ysgolion yn anodd bob amser; rhoddwyd ystyriaeth i'r datblygiadau tai amrywiol. Dylid ymgynghori ar hyn. Dywedodd Aelodau’r Cabinet bod lle yn Sant Cadog i 2 ddosbarth mynediad. Nid oes angen rhaglen adeiladu enfawr. Mae angen cadarnhau safleoedd, codi niferoedd disgyblion ac felly gynyddu cyllidebau.
|
|
Nododd Aelodau, pe bai 99% o ddisgyblion Glan yr Afon am fynd i’r un ysgol byddai’r un trefniadau derbyn yn berthnasol, ac yn yr achos annhebyg hwnnw mae’n bosib y byddai’n rhaid ystyried newid y dalgylch, a byddai hynny’n destun ymgynghoriad.
|
|
Mynegodd Aelodau bryder bod cyfanswm y disgyblion o ddatblygiadau tai newydd Braunton Crescent a Clevedon Road yn isel, ac er nad oes modd dibynnu’n llwyr ar amcanestyniadau disgyblion, mae’n bwysig bod y wybodaeth mor gadarn â phosib.
|
|
I egluro ymhellach, dywedodd Patricia Arlotte wrth y Pwyllgor na fyddai disgyblion yn cael eu gorfodi i fynychu Sant Cadog sy'n Ysgol Gatholig, ond pe bai nhw'n mynd yno byddai disgwyl eu bod yn dymuno bod yn y fath amgylchedd. Mae’n rhaid i aelodau staff arwyddo Cytundeb Gwasanaeth Addysg Catholig, felly byddai’n rhaid i'r rhai sy’n mynychu’r ysgol wneud hynny hefyd.
|
|
Clywodd yr Aelodau y byddai cost yn deillio o beidio defnyddio’r ysgol ond cadw’r adeilad. Byddai angen tipyn o fuddsoddiad cyfalaf, a gellid defnyddio’r safle’n well ar gyfer y gymuned.
|
|
Gofynnodd Aelodau am eglurder o ran symud y ddarpariaeth ADY; fe'u cynghorwyd bod ymrwymiad pendant i adleoli er nad oes cynllun eglur yn ei le eto. |
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y Ffordd Ymlaen.
Dogfennau ategol: