Eitem Agenda

Darpariaeth Gwasanaethau Seibiant Byr Caerdydd yn Nhŷ Storrie

(a)

Bydd y Cynghorydd Graham Hinchey, yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, yn cael gwahoddiad i wneud datganiad. Bydd Sarah McGill, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Pobl a Chymunedau, ac Angela Bourge, Rheolwr Gweithredol – Strategaeth, Perfformiad ac Adnoddau, ar gael i roi cyflwyniad ac ateb cwestiynau i'r Aelodau;

(b)

Cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor;

 

(c)

Bydd y ffordd ymlaen yn cael ei hystyried ar ddiwedd y cyfarfod.

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Bridgeman fod ganddo fuddiant rhagfarnus yn yr eitem hon o gofio ei fod wedi’i gyflogi gan Gweithredu Dros Blant, ac y byddai’n rhaid iddo adael y cyfarfod.

 

Enwebodd y Cynghorydd De’Ath y Cynghorydd Joyce i Gadeirio’r eitem hon.  Eiliwyd hyn ac fe’i cytunwyd gan y Pwyllgor.  Aeth y Cynghorydd Cowan i’r Gadair.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet, Plant a Theuluoedd), Sarah McGill (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau), Angela Bourge (Rheolwr Gweithredol, Strategaeth, Perfformiad ac Adnoddau) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Hinchey gan y Cadeirydd i wneud datganiad, lle dywedodd mai Gweithredu Dros Blant yw’r darparwr gwasanaethau ar hyn o bryd yn T? Storrie.  Yn flaenorol bu rhai pryderon am rai agweddau o’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig yn Nh? Storrie. Aed i'r afael â'r rhain, ond mae rhai problemau'n parhau a bydd cais i'r Cabinet i gymeradwyo bod tîm mewnol y Cyngor yn darparu gwasanaethau o hyn ymlaen.

 

Rhoddodd Angela Bourge gyflwyniad i’r Aelodau yn amlinellu’r cefndir, a’r buddion o ddod â’r gwasanaeth yn fewnol, gan gynnwys:

 

  •  

Aliniad gyda Crosslands / rhan o ddarpariaeth gwasanaethau wedi’u rheoleiddiol gyda’r un R1

  •  

Mwy o reolaeth dros ansawdd y gwasanaeth

  •  

System gofnodi rheoli-achosion unigol ar gyfer T? Storrie

  •  

Gwelliant disgwyliedig mewn recriwtio a chadw staff

  •  

Mynediad at galendr hyfforddi gofal cymdeithasol eang y Cyngor i gefnogi datblygiad staff

  •  

Symleiddio’r dull o greu rheolwyr

  •  

Rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Cyngor i adolygu’r model o ofal yn y dyfodol er mwyn gwneud y mwyaf o ddefnydd ohono a bodloni anghenion sy'n newid.

 

O ran Staffio a Chyllido, clywodd yr Aelodau y bydd staff Gweithredu Dros Blant yn trosglwyddo i’r Cyngor o dan reoliadau TUPE. Mae swydd y Rheolwr ar hyn o bryd yn wag; mae’r cynnig yn niwtral o ran cost.  Bu ymgynghori hefyd gyda’r undebau llafur.

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  •  

Nododd yr aelodau bod rheolwr Crosslands ynghlwm â'r mater a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth gofrestru'r cartref gyda'r cyngor.   Mae cyngor hefyd yn cael ei roi, ynghyd â chanllawiau ar faterion yn ymwneud â staff.  

 

Y bwriad yw penodi Rheolwr Cofrestredig newydd yn Nh? Storrie, ond bydd rheolwr Crosslands yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cofrestredig newydd.

 

  •  

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad yngl?n â sut yr ydym mewn gwell lle o ran staffio. Clywsant bod y darparwyr wedi gweithio’n galed i fynd i’r afael â phryderon, ond er gwaethaf hynny eu bod yn parhau, yn enwedig y ffaith bod swydd y Rheolwr Cofrestredig wedi bod yn wag am beth amser.  Mae’r problemau staffio parhaus wedi effeithio ar sefydlogrwydd, yn wahanol i Crosslands, lle mae gr?p o staff profiadol, sydd wedi dangos eu gallu i recriwtio a chadw staff da.

 

  •  

Tynnodd yr Aelodau sylw at y cyfraniad o £100,00 gan BIP, gan ofyn a fydd y cyllid hwnnw’n parhau.    Dywedodd swyddogion bod yr ariannu gan BIP yn dal yn broblem, a bydd hynny’n wir pwy bynnag sy’n rhedeg y cartre.

 

  •  

Gofynnodd Aelodau pam fod llai o ddefnydd wedi cael ei wneud o D? Storrie. O’r 8 gwely, y ddealltwriaeth oedd y byddai 4 yn cael eu defnyddio i gynnig Seibiant Cyfnod Byr yng Nghaerdydd, ac y byddai nyrsus BIP yn defnyddio 4 gwely am rai nosweithiau bob wythnos fel rhan o gynllun i integreiddio gwasanaethau. Fodd bynnag, mae anghenion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi newid o ran angen a chymhlethdod cynyddol, ac ni ellir bodloni'r rhain.  

 

  •  

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad a oedd y ffi oedd yn cael ei dderbyn yn dibynnu ar faint o bobl ifanc oedd yn aros yn Nh? Storrie.  Dywedodd Swyddogion bod yna fformiwla gymhleth, ond bod y Cyngor i bob pwrpas yn prynu nosweithiau gwely/arosiadau dros nos.  Mewn blynyddoedd blaenorol talwyd y ffi, ond wnaethon nhw ddim cyflawni. Nid dyna oedd yr achos yn 2017-18 fodd bynnag. Nid oedd yn werth am arian, yn hytrach na bod yn fater o fethu cyflawni'r contract. 

 

  •  

Nododd Aelodau, er bod risg cychwynnol o wrthdaro rhwng staff a drosglwyddwyd o dan TUPE, a staff gafodd eu recriwtio ar raddfeydd cyflog y Cyngor, roedd swyddogion yn fodlon y gellid rheoli hyn. Mae hyn bob amser yn broblem pan mae staff yn trosglwyddo o dan TUPE.  Ar y cyfan mae staff T? Storrie yn credu bod trosglwyddo o fantais; maent wedi ymrwymo i’r cartref.

 

  •  

Nododd aelodau bod ymgynghori wedi bod gyda’r plant a phobl ifanc a rhieni i sicrhau eu bod yn ymwybodol y bydd yr un lefel o ofal yn cael ei gynnig ac y bydd llawer o’r un staff yn dal yno.  Cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu a’r neges glir oedd bod rhieni’n gweld seibiant dros nos fel y gobaith olaf un. Maen nhw am gefnogaeth i wneud pethau gyda’i gilydd fel teulu.

 

  •  

Gofynnodd Aelodau am y ganran o blant sy’n gymwys i ddefnyddio’r gwasanaethau a chlywsant na fyddai rhestr aros fel y cyfryw. T? Storrie bydd y man cyswllt cyntaf, ond bydd rhaid ystyried a fydd anghenion y plentyn yn cael eu bodloni, o gofio'r rhai sydd eisoes yn derbyn y gwasanaeth.  

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y Ffordd Ymlaen.

 

Dogfennau ategol: