Eitem Agenda

Cynnig 1

Cynigiwyd gan:

Y Cynghorydd Keith Jones

 

 

Eiliwyd gan:

Y Cynghorydd Lee Bridgeman

 

Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod llwyddiannau ardderchog timau chwaraeon y Ddinas eleni ac yn llongyfarch:

 

1.

Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar godi i Gynghrair y Pencampwyr;

2.

Gleision Caerdydd ar lwyddo i ennill Cwpan Her Ewrop;

3.

Cardiff Devils ar ennill y Gynghrair Elitaidd a Gemau Ailgyfle'r Gynghrair Elitaidd.

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi pwysigrwydd Clybiau Chwaraeon Cymunedol a llwyddiant nifer o’n timau lleol ledled y Ddinas, a’u rôl wrth annog cydlyniad cymunedol a gwella Iechyd a Llesiant y Ddinas.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn nodi’r pwysigrwydd y mae Cyngor Caerdydd yn ei roi ar ddenu mwy o ferched at chwaraeon, sy’n cynnwys digwyddiad Merched Ynghyd Chwaraeon Caerdydd a fydd yn gweld 300 o ferched ysgol gynradd a 300 o ferched ysgol uwchradd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn 2019.

 

Mae’r Cyngor yn cefnogi’r gwaith y mae tîm Datblygu Chwaraeon y Cyngor yn ei wneud mewn partneriaeth â Phrifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd a'r penderfyniad yn 2012/13 i ganiatáu i blant dan 16 oed ddefnyddio ein cyfleusterau chwaraeon mewn parciau am ddim.

 

Mae’r Cyngor yn cydnabod y buddsoddiad y mae’r Cyngor wedi’i wneud wrth wella cyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys gwella ystafelloedd newid a gosod caeau chwarae 3G.

 

 Mae’r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu parhau i gynnig  chwaraeon i bob plentyn o bob cefndir a chaniatáu i blant dan 16 oed ddefnyddio cyfleusterau mewn parciau am ddim ar gyfer chwaraeon a drefnir a hefyd i weithio gyda phob un o'n clybiau Elitaidd i barhau â'r gwaith o adfywio chwaraeon yn ein dinas.

 

Dogfennau ategol: