(a) |
Bydd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd, Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau yn cael ei gwahodd i wneud datganiad. Bydd hi, ynghyd â Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg, a Suzanne Scarlett, Rheolwr Perfformiad, ar gael i ateb cwestiynau Aelodau;
|
(b) |
Cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor;
|
(c) |
Ystyrir camau i’w cymryd ar gyfer yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod. |
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) a Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) i’r cyfarfod.
Siaradodd y Cyfarwyddwr gan amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r ffordd y mae Estyn yn arolygu Awdurdodau Lleol; bydd y newidiadau yn addasu’r dull o arolygu, yn enwedig o ran hunan-werthuso prosesau. Dywedodd y byddai cynigion i gynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer y rhai hynny ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu rhoi gerbron y Cabinet ym mis Gorffennaf iddyn nhw eu hystyried. Rhagwelir y bydd craffu cyn-penderfyniad ar Anghenion Dysgu Ychwanegol ar agenda’r Pwyllgor yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf.
Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
|
Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am ofynion staffio’r ysgolion newydd sy’n cael eu datblygu, a sicrwydd y byddai digon o staff. Dywedodd y Cyfarwyddwr bod nifer o raglenni yn eu lle i roi’r sicrwydd hynny, gan gynnwys Academi Arweinyddiaeth Genedlaethol Cymru, y mae Prif Weithredwr newydd wedi’i benodi ar ei chyfer, a bod y Rhaglen Dysgu yn Gyntaf yn gwneud yn dda;
|
|
Mynegodd Aelodau bryder am y lefelau o absenoldeb yn sgil salwch ymhlith cynorthwywyr dosbarth a staff cymorth mewn ysgolion, gan bod yna gynnydd bach wedi bod yn y ffigyrau.
|
|
Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am y nifer o ysgolion sydd â diffyg rheolaidd yn eu cyllidebau. Clywodd yr Aelodau bod y Fforwm Cyllidebau Ysgolion wedi bod yn monitro hyn yn ofalus, a bod cynnydd da wedi’i wneud oherwydd ymyrraeth. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr bod Coleg Cymunedol Llanfihangel a Glyn Derw nawr ar gau, bod gwelliannau wedi’u gwneud yn Ysgol Uwchradd Cantonian a bod pryderon wedi’u codi yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain oherwydd niferoedd disgyblion. Fodd bynnag, byddai’r ysgol honno yn llawn o fis Medi 2018. Roedd pryderon o hyd am gyllidebau Ysgolion Uwchradd Willows, Glyntaf a’r Eglwys Newydd. Mynegodd y Cyfarwyddwr hefyd bryder am y cyllidebau sy’n cael eu cario ymlaen gan ysgolion cynradd, gan nodi bod rhai yn ofalus yngl?n â defnyddio eu cyllidebau. |
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y Ffordd Ymlaen.
Dogfennau ategol: