English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 Gwasanaethau Plant

(a)

Bydd y Cynghorydd Graham Hinchey, yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, yn cael gwahoddiad i wneud datganiad. Bydd e, ynghyd â Sarah McGill, Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau, ac Irfan Alam, Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Gwasanaethau Plant ar gael i ateb cwestiynau Aelodau;

 

 (b)

Cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor;

 

 (c)

Ystyrir camau i’w cymryd ar gyfer yr eitem hon ar ddiwedd yr eitemau Gwasanaethau Plant.

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Sarah McGill (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau) ac Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant) i’r cyfarfod ac i gyflwyno’r adroddiad.


Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Hinchey i wneud datganiad. Ynddo esboniodd bod swyddogion o Wasanaethau Plant yn gweithio i ddatblygu fersiwn symlach o’r adroddiad perfformiad sy’n bodloni anghenion yr Aelodau ac yn galluogi swyddogion i roi’r wybodaeth angenrheidiol yn hawdd.    Croesawodd gynnig y Pwyllgor i gael panel perfformiad.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau gyflwyniad a roddodd fraslun i’r Aelodau o’r dull newydd o reoli perfformiad.   Pwysleisiodd ei dymuniad i wella adroddiadau perfformiad ac roedd yn cydnabod yr angen i’r Pwyllgor dderbyn gwybodaeth ychwanegol i ddeall yn llawn y materion yng Ngwasanaethau Plant.

 

 

  •  

Clywodd yr Aelodau bod 15 o blant sy'n derbyn gofal wedi’u dychwelyd i Gaerdydd yn ystod y flwyddyn, a bod un person ifanc arall i’w ddychwelyd.   Er mwyn sicrhau bod plant naill ai’n aros yng Nghaerdydd neu’n cael eu dychwelyd i’r ddinas, manylodd Adroddiad yr Ymchwiliad Gorchwyl a Gorffen ar nifer o gamau i’r Cabinet eu hystyried.   Mae’n bwysig, cymaint â phosib, bod yr amgylchedd teuluol yn cael ei ail-greu yng nghartrefi’r plant.   Mae’n bwysig pan fo ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddychwelyd y plentyn i Gaerdydd, bod cymaint a phosib o fanylion ar gael i sicrhau bod y dewis cywir yn cael ei wneud dros y plentyn.   

 

  •  

Gofynnodd yr Aelodau pam fod 68% o’r atgyfeiriadau gan yr Heddlu i MASH am wybodaeth yn unig, ac/neu nad oedd angen gneud camau pellach.  Cynghorodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol bod yr Heddlu’n rhannu gwybodaeth yn gyson a’u bod yn teimlo bod dyletswydd arnynt i roi gwybodaeth am bob achos i MASH.   Clywodd yr Aelodau bod yr atgyfeiriad sy’n cael ei gofnodi fel ‘dim camau pellach’ yn golygu nad oedd yn cyrraedd y trothwy. Nid yw hyn yn golygu fodd bynnag nad oes gwasanaethau eraill ar gael allai fod o gymorth e.e. gyda sgiliau rhianta, neu gyngor ariannol.

 

  •  

Gofynnodd Aelodau am eglurhad yngl?n â pha mor dda mae MASH yn gweithio. Fe’u cynghorwyd bod yr adborth o’r holl bartneriaid yn wych, yn arbennig am y gallu i gael trafodaethau agored.    Mae atgyfeiriadau ar gynnydd ond mae hynny i’w ddisgwyl. Byddai gwybodaeth am achosion sy’n cael eu hatgyfeirio i ddarparwyr eraill o gwbl, o fudd pan yn ystyried y ffigyrau.   

 

  •  

Mynegodd aelodau bryder am ddarpariaeth addysgol ar gyfer y plant hynny sy’n derbyn gofal, sy’n cael eu lleoli y tu fas i’r sir.    Awgrymodd yr Aelod Cabinet ei fod wedi cael trafodaethau â chydweithwyr mewn awdurdodau eraill, gyda’r nod o gael trefniadau i helpu’i gilydd.

 

  •  

Gofynnodd aelodau am y strategaeth recriwtio sy’n cael ei datblygu ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, ac fe’u cynghorwyd bod angen iddi fod yn eang.   Awgrymodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol bod anawsterau wrth recriwtio pobl i Rolau Amddiffyn Plant, er bod hyn yn broblem i weddill y wlad yn ogystal.    Sicrhawyd yr Aelodau bod recriwtio yn parhau i fod yn flaenoriaeth.   

 

  •  

Nododd yr aelodau mai gofalwyr maeth mewnol sy’n gofalu am 93 o’r 102 o blant sy'n derbyn gofal.  Mae rhieni maeth yn cael eu talu ‘run fath, pa un ai ydynt yn annibynnol neu'n ofalwyr yr awdurdod lleol.  Mae’n bwysig sicrhau bod y rhai sy’n dangos diddordeb mewn bod yn rieni maeth, yn gyflym iawn yn dod yn rieni maeth os yn addas. Mae’n bwysig bod yr awdurdod yn canolbwyntio ar farchnata, asesu a chefnogi gofalwyr maeth.  Mae gwaith yn mynd rhagddo i weld pa gefnogaeth fyddai’n gwneud y gwahaniaeth i rieni maeth.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod yn bwysig monitro’r raddfa y mae ymholiadau am faethu, yn troi yn rieni maeth, ac i fonitro’r symudiad tuag at rieni maeth mewnol.

 

  •  

Mynegodd aelodau bryder am lefel digartrefedd ymhlith pobl sy’n gadael gofal ac fe’u cynghorwyd nad oedd y ffigyrau’n gywir. Ar hyn o bryd mae pobl sy’n gadael gofal ac sy’n byw mewn llety dros dro yn cael eu hystyried yn ddigartref, yn ôl y ffigyrau fel mae’n nhw’n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd.  

 

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y Ffordd Ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.