Eitem Agenda

Cynllun Corfforaethol 2018-2021

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2018-21 i’w ystyried gan y Cyngor ar 24 Mai 2018; ac

2.   argymell bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gynllun Corfforaethol 2018-21 yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 22 Mai 2018 a chyn ei gyhoeddi.

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet y Cynllun Corfforaethol 2018-2021 i’w ail ystyried yn dilyn penderfyniad y Cyngor i beidio â’i gymeradwyo yn eu cyfarfod ym mis Ebrill. Nodwyd bod y cynllun yn cynnwys sawl cyfeiriad at fynd i’r afael ag anghyfartaledd yn ei holl weddau, gan gynnwys anghyfartaledd iechyd. Yn dilyn dadl yn y Cyngor, mae ymrwymiad y Weinyddiaeth i fynd i’r afael ag anghyfartaledd iechyd yng Nghaerdydd wedi ei wneud yn gliriach a’i gryfhau a cham ychwanegol wedi ei gynnwys i ystyried arweiniad a ddaw i’r amlwg ar gwblhau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd statudol er mwyn bwydo datblygiad Cynlluniau Corfforaethol yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:  

 

1.            cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2018-21 i’w ystyried gan y Cyngor ar 24 Mai 2018; ac

 

2.            Argymell i’r Cyngor ddirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gynllun Corfforaethol 2018-21 yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 24 Mai 2018.

 

Dogfennau ategol: