Penderfyniad:
Ni chyhoeddir Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo cynnwys yr adroddiad fel sylfaen ymateb y Cabinet i benderfyniad y Pwyllgor Craffu PRAP i gyfeirio’n ôl Benderfyniad Swyddogion at y Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd.
2. Awdurdodi gwaredu tir y Cyngor yn Heol Wedal sydd wedi’i ddangos gyda llinell goch ar y cynllun safle yn Atodiad 1 yr adroddiad trwy gyfrwng trafodiad oddi ar y farchnad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar y telerau wedi’u nodi yn Atodiad 3 sy’n gyfrinachol ac ar sail y gwerth marchnad wedi’i bennu gan adroddiad y gwerthwr annibynnol sydd wedi’i atodi at Atodiad 2 sy’n gyfrinachol
Cofnodion:
Ni chyhoeddir Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu manylion penderfyniad y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad i gyfeirio y penderfyniad a alwyd yn ôl gan y Swyddog yn ymwneud â gwaredu tir ar Heol Wedal i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Adroddwyd bod gwerth y tir wedi bod yn destun prisio marchnad annibynnol yn unol â rheolau gwaredu eiddo’r Cyngor a bod gwerthiant wedi ei gytuno gyda Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn unol â’r polisi gwaredu eiddo o gynnig tir/adeiladau segur i bartneriaid sector cyhoeddus. Roedd y penderfyniad hwn yn unol â Phrotocol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaredu a rhannu defnydd ar asedau eiddo rhwng cyrff yng Nghymru a ariennir yn gyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo cynnwys yr adroddiad fel sylfaen ymateb y Cabinet i benderfyniad y Pwyllgor Craffu PRAP i gyfeirio’n ôl Benderfyniad y Swyddog at y Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd.
2.
3. Awdurdodi gwaredu tir y Cyngor yn Heol Wedal sydd wedi’i ddangos gyda llinell goch ar y cynllun safle yn Atodiad 1 yr adroddiad trwy drafodiad oddi ar y farchnad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar y telerau cyfrinachol a nodwyd yn Atodiad 3 ac ar sail gwerth y farchnad wedi’i bennu gan adroddiad y gwerthwr annibynnol sydd wedi’i atodi at Atodiad 2 sy’n gyfrinachol
Dogfennau ategol: