English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Fferm Solar Ffordd Lamby

Penderfyniad:

Ni fydd Atodiadau yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r Achos Busnes a’r Dyraniad Buddsoddi i Arbed a rhoi'r cynllun cyflawni ar waith

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet yr achos busnes manwl ar gyfer fferm solar yn Lamby Way, yn seiliedig ar gapasiti o 7.5 mw. Adroddwyd y daethpwyd i fargen amlinellol gyda sefydliad i gymryd 4.5mw o gapasiti o’r Fferm Solar dros gyfnod o ugain mlynedd a helpodd hyn hyfywedd y project.  Cynigwyd y byddai cynnydd y project i'r cam nesaf yn cynnwys cyflwyno cais cynllunio a chychwyn proses gaffael ar gyfer contractwr dylunio ac adeiladu, a chontractwr gweithredu a chynnal a chadw ar gyfer y cynllun. Byddai costiadau terfynol ar gyfer y cynllun, yn seiliedig ar ganlyniad y broses gaffael ffurfiol yn cael eu dwyn gerbron y Cabinet i’w cymeradwyo’n derfynol.

PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r Achos Busnes a’r Dyraniad Buddsoddi i Arbed a rhoi'r cynllun cyflawni ar waith

Dogfennau ategol:

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.