Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. estyn pwerau’r Cyngor i gefnogi'r gwaith o Ddiwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a chymeradwyo Rheoliadau Gwaredu Gwastraff yn Anawdurdodedig (Cosbau Sefydlog) (Cymru) 2017.
2. cymeradwyo’r penderfyniad i osod swm y HCB am dipio anghyfreithlon ar raddfa fach ar £400 heb gynllun talu cynn
Cofnodion:
Ystyriwyd adroddiad sy’n amlinellu cynigion ar gyfer ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â thipio’n anghyfreithlon trwy fabwysiadu technolegau a phwerau deddfwriaethol newydd gan y Cabinet. Cynigwyd y defnyddid pwerau deddfwriaethol sy'n caniatáu i Awdurdodau osod tâl cosb sefydlog ar gyfer tipio’n anghyfreithlon. At hynny, amlinellodd yr adroddiad fanylion o fentrau Teledu Cylch Cyfyng er mwyn helpu gyda chanfod tipwyr anghyfreithlon a manylion o ymgyrch addysg a gynllunnir.
PENDERFYNWYD: bod
1. estyn pwerau’r Cyngor i gefnogi'r gwaith o Ddiwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a chymeradwyo Rheoliadau Gwaredu Gwastraff yn Anawdurdodedig (Cosbau Sefydlog) (Cymru) 2017.
2. cymeradwyo’r penderfyniad i osod swm y HCB am dipio anghyfreithlon ar raddfa fach ar £400 heb gynllun talu cynnar
Dogfennau ategol: