Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r dull o ddatblygu Hybiau Llesiant Cymunedol yng ngogledd a gorllewin y ddinas a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Pobl a Chymunedau i fynd â hyn yn ei flaen mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau.
Bydd unrhyw gynigion sy'n cynnwys newid sylweddol i adeiladau cyfredol yn amodol ar adroddiad cabinet ar wahân.
2. cytuno i’r cynigion ar gyfer dull newydd o ymgysylltu â’r gymuned trwy gyflwyno Swyddogion Cynhwysiant Cymunedol sy’n aros yn yr Hyb
3. cytuno i raglen grant ar gyfer Iechyd a Llesiant a Chlybiau Gwaith Cartref fel y nodir yn yr adroddiad
4. cytuno i gynigion i wella gwasanaethau a gwella cydweithio yn Hyb y Llyfrgell Ganolog
5. cymeradwyo gwaith i ddatblygu gwasanaetha llyfrgell ymhellach gan adeiladu ar arfer gorau i gyflwyno gwasanaethau llyfrgell o safon a digwyddiadau ledled y ddinas.
Cofnodion:
Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu cynigion ar gyfer datblygu hybiau ymhellach er mwyn helpu i adeiladu cymunedau gwydn. Cynigiwyd datblygu hybiau llesiant cymunedol yng ngogledd a gorllewin y ddinas a fyddai’n cynnig ystod eang o wasanaethau byw yn annibynnol, yn cynnwys sefydliadau partner a grwpiau cymunedol lleol a gwirfoddolwyr. Byddai adolygiadau o bob ardal yn cael eu cwblhau i nodi anghenion lleol er mwyn sicrhau y gellid teilwra gwasanaethau i’r ardal. Ar ben hynny cynigiwyd fod gwasanaeth cynhwysiant cymunedol yn cael ei datblygu ar draws yr hybiau i roi cefnogaeth i grwpiau lleol.
Cynigiodd yr adroddiad hefyd newidiadau i Hyb y Llyfrgell Ganolog i alluogi mwy o gydweithio o fewn y llyfrgell.
PENDERFYNWYD:
1. bod y dull o ddatblygu Hybiau Llesiant Cymunedol yng ngogledd a gorllewin y ddinas yn cael ei fabwysiadu ac awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Pobl a Chymunedau i fynd â hyn yn ei flaen mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau.
2. Bydd unrhyw gynigion sy'n cynnwys newid sylweddol i adeiladau presennol yn amodol ar adroddiad cabinet ar wahân.
3. cytuno ar y cynigion ar gyfer ymagwedd newydd at ymgysylltu cymunedol trwy gyflwyno Swyddogion Cynhwysiant Cymunedol wedi eu hangori yn yr Hyb.
4. cytuno i raglen grant ar gyfer Clybiau Iechyd a Llesiant a Gwaith Cartref fel y nodir yn yr adroddiad
5. cytuno i gynigion i wella gwasanaethau a gwella cydweithio yn Hyb y Llyfrgell Ganolog
6. cymeradwyo datblygu gwasanaethau llyfrgelloedd ymhellach, gan i adeiladu ar arfer gorau ac i gyflwyno gwasanaethau llyfrgell a digwyddiadau o safon ledled y ddinas.
Dogfennau ategol: