Eitem Agenda

Gorsaf Fysus Caerdydd Canolog

Gwahardd y Cyhoedd

 

Mae atodiadau’r adroddiad wedi’u heithrio rhag cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio rhag y disgrifiad sydd ym mharagraff 4 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Gellid gwahardd y cyhoedd wahardd rhag dod i’r cyfarfod drwy benderfyniad y Pwyllgor yn unol ag Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 wrth i’r eitem hon gael ei thrafod. 

 

Penderfyniad:

Gorsaf Fysus Caerdydd Canolog

 

Mae atodiadau 1, 3, 4 a 5 i’r adroddiad hwn wedi eu heithrio rhag cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r fath a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 14 a 21 o rannau 4 a 5 Atodiad 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

(1)     Cymeradwyo, mewn egwyddor, cytundeb cydweithio Partneriaeth Darparu Metro fel y nodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 1 a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro er mwyn trafod a dirwyn i ben yr holl agweddau ar y cytundeb terfynol â Llywodraeth Cymru a’r datblygwr ar gyfer darparu’r Orsaf Fysus Ganolog newydd.

 

(2)        Cymeradwyo’r broses o ddirwyn y diddordeb lesddeiliad i ben yn y darn o dir a farciwyd yn goch a phrynu’r darn o dir a farciwyd yn las ar y cynllun safle yn Atodiad 2 er mwyn cefnogi’r broses o ddarparu'r Orsaf Fysus Ganolog newydd  yn ôl y telerau a nodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 1 ac yn unol â’r prisiad annibynnol a roddwyd yn Atodiad Cyfrinachol 4.

Cofnodion:

Ni fydd Atodiadau 1, 3, 4, a 5 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio yn y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r penderfyniad wedi ei ardystio gan y Swyddog Monitro yn un brys oherwydd gallai unrhyw oedi y byddai’r broses galw i mewn yn debygol o'i beri ragfarnu'r Cyngor ac mae er budd y cyhoedd dan adran 13 y Rheolau Gweithdrefnau Craffu ac nid yw'r weithdrefn galw i mewn yn berthnasol iddo.

 

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad oedd yn rhoi newyddion diweddar ar y model ariannol a’r strategaeth gweithredu ar gyfer Datblygu Gorsaf Fysus Ganolog newydd.  Bydd y cynllun diwygiedig yn rhoi gorsaf fysus 14 man aros ar y llawr gwaelod, a thua 10,000 tr sg o ofod masnachu cysylltiedig.   Bydd y datblygiad masnachol oddi uchod yn cynnwys tua 300 o unedau preswyl y sector rhent preifat a thua 80,00 tr sg o ofod swyddfa Gradd A*.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (1)    cymeradwyo cytundeb cydweithio Partneriaeth Darparu’r Metro mewn egwyddor, fel y nodir yn Atodiad Cyfrinachol 1 a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformio, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i negodi a chadarnhau’r holl agweddau ar gytundeb terfynol gyda Llywodraeth Cymru a’r datblygwr er mwyn darparu’r Orsaf Fysus Ganolog newydd.

 

(2)     cymeradwyo gwaredu ar y diddordeb prydles yn y tir a nodir yn goch a chaffael y tir a nodir yn las ar gynllun y safle sydd wedi ei atodi fel Atodiad 2 er mwyn cynorthwyo darparu’r Orsaf Fysus Ganolog ar yr amodau a nodir yn Atodiad Cyfrinachol 1 ac yn unol â’r prisiad annibynnol a geir yn Atodiad Cyfrinachol 4.

 

 

Dogfennau ategol: