Eitem Agenda

Ansawdd Aer - Cyfeiriad Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: 

 

1.  Cymeradwyo’r dasg o ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru;

 

2.  Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, mewn ymgynghoriad ag Aelodau’r Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd,  a Chynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, er mwyn cychwyn y broses o gaffael ymgynghorydd arbenigol i ymgymryd â modelu manwl er mwyn cefnogi’r astudiaeth ddichonoldeb, gan gynnwys cyflwyno dogfennaeth; ac ymdrin yn gyffredinol â phob agwedd ar y broses gaffael a materion ategol, hyd at a chan gynnwys dyfarnu contract;

 

3.  Nodi’r cyhoeddiad o’r Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân a’i gyfeirio at y Cyngor Llawn i’w drafod.

 

Cofnodion:

Yn dilyn derbyn cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru o’r enw “Deddf yr Amgylchedd 1995 (astudiaeth o ddichonoldeb ar gyfer Cydymffurfiaeth Nitrogen Deuocsid), Cyfarwyddyd Ansawdd yr Awyr 2018", derbyniodd y Cabinet adroddiad a oedd yn nodi manylion y cyfarwyddyd a'i oblygiadau ar gyfer Caerdydd.  Yn atodol i’r adroddiad, roedd Papur Gwyrdd Trafnidiaeth ac Awyr Glân a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2018. Mae’r Papur Gwyrdd yn nodi cyfres o opsiynau ar gyfer ymgynghori i fynd i’r afael â thagfeydd a gwella safon yr awyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.  cymeradwyo cynnal astudiaeth o ddichonoldeb yn ôl gofynion y cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru;

 

2.  dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth ac Amgylchedd, mewn ymgynghoriad â'r Aelodau Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd a Chynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i gychwyn caffael ymgynghorydd arbenigol i lunio model manwl a chynorthwyo’r astudiaeth o ddichonoldeb, yn cynnwys cyflwyno dogfennaeth a thrin yn gyffredinol â'r holl agweddau ar y broses gaffael a materion ategol hyd at ac yn cynnwys cadarnhau’r contract;

 

3.  nodi cyhoeddi’r Papur Gwyrdd Trafnidiaeth ac Awyr Glân a’i gyfeirio at y Cyngor Llawn i’r drafod.

 

 

Dogfennau ategol: