Cynigwyd gan:Y Cynghorydd Ashley Wood
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Emma Sandrey
Mae Cyngor Caerdydd yn nodi bod:
· Mae plastigion defnydd untro’n creu gwastraff diangen sy’n cael effaith andwyol ar ein cymunedau a’r amgylchedd.
· Cynhyrchir tua 400 miliwn o dunelli o blastigion ledled y byd bob blwyddyn y bwriedir i 40% ohonynt fod yn ddefnydd untro [1].
· Mae dros 8 miliwn o dunelli o blastigion yn cyrraedd cefnforoedd y byd bob blwyddyn, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o’r tir [2].
· Ni all plastigau fel polystyren gael eu hailgylchu.
· Mae cwpanau coffi papur yn aml yn cynnwys polyethylen sy'n ei wneud yn anodd eu hailgylchu.
· Mae ailddefnyddio’n well nag ailgylchu neu waredu gan ei fod angen llai o ynni.
· Mae busnesau bach ar draws De Cymru’n cymryd camau rhagweithiol i annog defnyddwyr i ddefnyddio llai o blastigion [3].
· Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd yn arwain y ffordd drwy ‘Ymgyrch Di-wellt’ [4].
Rydym yn galw ar Gyngor Caerdydd i wneud y canlynol:
· Dirwyn yr holl blastigau defnydd untro i ben, gan gynnwys cwpanau, caeadau, poteli plastig, cardfwrdd sydd wedi’u leinio â phlastig, a hynny ar gyfer yr holl blastigau defnydd untro yn holl eiddo Cyngor Caerdydd erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018-19.
· Sicrhau bod yr holl sefydliadau sy’n derbyn cyllid gan y Cyngor yn ymrwymo i arferion cynaliadwy a’u bod yn cael eu hannog i ddechrau’r broses raddol o beidio â defnyddio pob eitem blastig defnydd untro.
· Annog pob busnes mae’r Cyngor yn gweithio gydag ef i hyrwyddo proses raddol o beidio â defnyddio cynnyrch tebyg yn eu hamgylcheddau busnes, trwy ddulliau caffael a rhwydweithiau eraill.
· Darparu cwpanau a llestri y gellir eu hail-ddefnyddio yn ôl yr angen a rhoi camau ar waith i lanhau'r eitemau hynny.
· Cefnogi cynlluniau i gyflwyno’r ffynhonnau d?r a safleoedd adlenwi.
· Ymchwilio i gynllun dychwelyd â blaendal ar gyfer Caerdydd.
1. Geyer R, Jambeck JR, Law KL. Production, use, and fate of all Plastics ever made. Sci Adv. 2017;3(7).
2. “BBC to ban single-use plastics by 2020 after Blue Planet II”. http://www.bbc.co.uk/news/uk-43051153
3. “Momentum builds in small businesses to curb plastic use”.
http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-42832201
4. “Students spearhead anti-plastic movement in Cardiff”.
http://www.jomec.co.uk/intercardiff/environment/students-spearhead-anti-plastic-movement-in-cardiff