English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Chwarter 3 Perffaith Corfforaethol a Chategori Ysgolion

(a)  Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac efallai y bydd hi am wneud datganiad;

 

(b)  Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes a Jackie Turner, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes) a swyddogion addysg yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gan Aelodau;

 

(c)  Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(d)  Ystyrir camau i’w cymryd ar gyfer yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry (Diprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Jackie Turner (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad lle amlygodd ein bod yn gweld gwelliant ledled Caerdydd, ond nododd fod heriau’n parhau, gan gynnwys o ran lleihau’r bwlch a chyrhaeddiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, gan nodi’r drefn flaenoriaeth ar gyfer y llwyth gwaith cynnal a chadw asedau a gwella darpariaeth a chymorth i’r rheiny ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). 

 

Rhoddodd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) ddatganiad lle dywedodd fod y canlyniadau hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol, ond y bydd adroddiadau ESTYN yn parhau i gael eu monitro. O ran heriau, mae’r gyllideb ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir yn parhau i roi pwysau.  Ychwanegodd y cynhaliwyd ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth ADY ym mis Ionawr.

 

Gwnaeth Jackie Turner (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg) hefyd ddatganiad lle amlinellodd y gwelliannau sydd wedi’u gweld ar draws yr holl ysgolion. Yn y sector cynradd, mae’r gyfran o ysgolion yn y categorïau gwyrdd a melyn yn uwch na ffigurau Cymru. Gwelir patrwm tebyg o welliant ar draws ysgolion uwchradd, gyda dim ond 1 wedi’i gategoreiddio fel coch (er mae’r ysgol hon yn gwneud cynnydd da). Mae ysgolion arbennig wedi gwella’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, heb unrhyw un yn y categori coch. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar gymariaethau safoni rhanbarthol gydag Awdurdodau Lleol eraill, ac mae Caerdydd yn gwneud yn dda ar y cyfan. 

 

Roedd aelodau’n falch gyda’r adroddiad ac nid oedd ganddynt unrhyw gwestiynau.

 

CYTUNWYD – bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu sylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.