Penderfyniad:
Ni chyhoeddir Atodiad 3 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i gael diddordeb llesddeiliaid yn safle Toys ‘R’ Us wedi’i liwio’n las ar y cynllun atodedig yn Atodiad 1, ar y telerau wedi’u nodi yn Atodiad 3 sy’n gyfrinachol ac yn amodol ar werthusiadau annibynnol llawn.
Cofnodion:
Ni chyhoeddir Atodiad 3 yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn ceisio canfod diddordeb yn y brydles ar yr eiddo ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, lle mae Toys ‘R Us ar hyn o bryd. Bydd prynu’r tir yn cynorthwyo cyflawni un o brojectau adfywio allweddol Caerdydd.
PENDERFYNWYD: bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i ganfod diddordeb llesddeiliaid yn safle Toys ‘R’ Us, sydd wedi’i liwio’n las ar y cynllun atodol yn Atodiad 1, ar y telerau yn Atodiad 3 sy’n gyfrinachol ac yn amodol ar werthusiadau annibynnol llawn.
Dogfennau ategol: