(a) Bydd y Cynghorydd Graham Hinchey (yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd) yn bresennol ac efallai y bydd am wneud datganiad;
(b) Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol) ac Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant) yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau gan Aelodau;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;
(d) Ystyrir camau i’w cymryd ar gyfer yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd) ac Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant) i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad, lle dywedodd er bod lefel uchel o waith cymhleth, mae perfformiad yn parhau i fod yn dda diolch i waith caled y staff. Un o’r pwysau parhaus yw bod nifer y plant sy’n derbyn gofal yn cynyddu, ond mae’r Gyfarwyddiaeth yn edrych ar strategaethau cymorth cynnar i ymdrin â hyn ac mae Cynghorau ledled y DU yn delio â chynnydd o ran plant sy’n derbyn gofal sydd â phroblemau cymhleth.
Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
· Nododd aelodau fod y gyfradd llwyth gwaith plant sy’n derbyn gofal yn uwch yng Nghaerdydd na gweddill Cymru.
· Esboniodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ein bod wedi gweld tuedd am i fyny, gyda chynnydd ledled Cymru a'r DU. Mae Caerdydd yn ddinas fwy nag eraill yng Nghymru ac felly â chyfran uwch o blant sy’n derbyn gofal.
· Gofynnwyd am fwy o wybodaeth monitro yn dilyn adroddiad perfformiad Chwarter 2 yng nghyfarfod mis Rhagfyr.
· Nododd aelodau er bod yr adroddiad Chwarter 3 newydd yn sylweddol, ei fod yn rhy gymhleth ac yn anodd dod o hyd i’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani. Esboniodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ei fod yn anodd darparu data cymharol ar gyfer rhai ardaloedd oherwydd newidiadau a gyflwynwyd y llynedd, fodd bynnag, caiff newidiadau pellach eu gwneud i’r adroddiad nesaf.
· Nododd aelodau fod canran y swyddi Gweithwyr Cymdeithasol wedi cynyddu ers Chwarter 2 a chawsant wybod bod hyn i ryw raddau oherwydd bod swyddi wedi’u hail-ddyrannu, gyda rhai aelodau presennol o staff yn symud i swyddi newydd; gyda’u swyddi gwreiddiol felly’n parhau’n wag.
Cafodd aelodau eu calonogi bod swyddi yn cael eu creu, ond holwyd ynghylch yr amser y mae’n ei gymryd i benodi i’r swyddi gwag. Holodd aelodau hefyd p’un a yw Gweithwyr Cymdeithasol sydd wedi’u recriwtio yn cael eu cadw. Cafodd aelodau wybod fod gan Weithwyr Cymdeithasol gyfnod rhybudd o 8 wythnos ond mae hyn yn amrywio o awdurdod i awdurdod. Cafodd aelodau hefyd wybod bod y Cyngor yn cadw staff, gyda rhai’n dychwelyd ar ôl gadael yn flaenorol. Cafodd aelodau wybod y byddai’n heriol i leihau’r cyfnod rhybudd yn unol ag awdurdodau eraill gan fod gan yr awdurdod un polisi ar gyfer pob aelod o staff.
· Ceisiodd aelodau eglurhad ar y gost arweiniol o ran staff asiantaeth a chawsant wybod mai’r gost hyd yn hyn yw £1,994,000. Gellir rhoi data cymharol o'r blynyddoedd diwethaf mewn adroddiad yn y dyfodol.
Gofynnodd aelodau hefyd am wybodaeth yn y dyfodol ar y farchnad asiantaethau Gweithwyr Cymdeithasol a sut mae’r asiantaethau hyn yn gweithredu.
· Nododd aelodau fod perfformiad mewn perthynas ag amseroldeb asesiadau lles statudol wedi gostwng yn Chwarter 3 a chawsant wybod bod system ar waith i sicrhau bod plant yn cael eu gweld mewn modd amserol.
Dylid blaenoriaethu a rheoli’r galw. Mae’r broses yn cael ei chraffu’n agos, ac mae uwch reolwyr uwch yn adolygu adroddiadau perfformiad yn wythnosol. Gofynnodd aelodau p’un a ellid ail-feddwl y gofynion statudol os nad ydynt yn bosibl, ond esboniodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ei fod yn beth da cael yr amserlen hon i sicrhau eu bod yn parhau i wella, a bod y sefyllfa yn cael ei hadolygu’n gyson.
· Cyfeiriodd yr aelodau at y Targedau Dangosyddion Perfformiad gan nodi bod yna nifer o ddangosyddion lle na osodir targedau ar eu cyfer.
Amlygodd aelodau y dylai’r wybodaeth hon fod ar gael e.e. i nifer y plant sy’n derbyn gofal a nifer y plant mewn lleoliadau y tu allan i’r sir sy’n dychwelyd i Gaerdydd, ond dywedwyd wrthynt nad yw’n briodol gosod targedau ar gyfer rhai ardaloedd. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet fod nifer y plant sy’n derbyn gofal (810) yn cael ei nodi yn yr adroddiad ac y byddant yn adrodd ar y gr?p gorchwyl a gorffen sy’n edrych ar leoliadau y tu allan i’r sir cyn bo hir. Esboniodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol y bydd ffigurau dangosyddion perfformiad blynyddol ar gael yn yr adroddiad diwedd blwyddyn. Awgrymodd aelodau y gellid adrodd ar y wybodaeth chwarterol mewn ffordd gliriach.
· Roedd aelodau’n falch bod y Ganolfan Adnoddau Llencyndod (CALl) yn cael effaith gadarnhaol a gofynnwyd p’un a ellid cynyddu’r capasiti.
Dywedwyd wrth aelodau ers i’r CALl fynd yn fyw yn Ebrill 2017 fod y capasiti eisoes wedi’i gynyddu, a’u bod nhw yn y broses o recriwtio mwy o weithwyr cymorth, Gweithiwr Cymdeithasol ychwanegol a’u bod nhw hefyd yn edrych ar recriwtio dau weithiwr seibiant ychwanegol.
CYTUNWYD – bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu sylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: