Eitem Agenda

Derbyniadau Ysgol - Adroddiad Drafft i'r Cabinet

(Adroddiad i ddilyn)

 

(a)  Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac efallai y bydd hi am wneud datganiad;

 

(b)  Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a swyddogion addysg yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gan Aelodau;

 

(c)  Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(d)  Ystyrir camau i’w cymryd ar gyfer yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Brett Andrewartha (Rheolwr Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion) i'r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad lle amlygodd y pwysau ar ysgolion uwchradd a’r angen i symleiddio’r meini prawf pan fo mwy o geisiadau na lleoedd.  Yn dilyn adolygiad annibynnol gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, Data a Dulliau (WISERD) ac ymgynghoriad cyhoeddus ar ddau ddewis (Dewis A a Dewis B), argymhellwyd y dylai’r Cabinet weithredu Dewis A, sy’n unol â’r polisi cyfredol.   

 

Rhoddodd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) ddatganiad hefyd, lle esboniodd, yn dilyn ymgynghoriad, mai dim ond ychydig o bryderon a godwyd mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig i’r meini prawf pan fo mwy o geisiadau na lleoedd ar gyfer addysg feithrin a chynradd. Fodd bynnag, codwyd nifer o bryderon mewn perthynas ag addysg uwchradd.  Dywedodd y bydd y Cabinet cyn bo hir yn derbyn adroddiad ar ddiwygiadau i ddalgylchoedd ysgolion ar gyfer 2020/21 a bod tri ffactor sydd angen eu hystyried wrth edrych ar hyn; y meini prawf derbyn i ysgolion; nifer y lleoedd mewn ysgol; a’r dalgylchoedd. 

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·         Nododd aelodau y cafodd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG) ei gynnal ar Ddewis B, ond nid ar Ddewis A.  Codwyd pryderon mewn perthynas ag ysgolion cynradd Parc y Rhath a Marlborough, lle mae yna gyfran uchel o ddisgyblion sy’n byw ar ffin y dalgylch ar gyfer Ysgol Uwchradd Caerdydd ac nad ydynt yn cael lle oherwydd y meini prawf pan fo mwy o geisiadau na lleoedd.

·         Esboniodd yr Aelod Cabinet na fydd unrhyw newidiadau yn cael eu rhoi ar waith tan 2019, ac y gallai’r meini prawf pan fo mwy o geisiadau na lleoedd fod yn wahanol iawn a bod angen ystyried y sefyllfa ledled y ddinas.  Esboniodd swyddogion fod y dadansoddiad yn dangos y byddai gweithredu Dewis B yn cael effaith negyddol ar y pedair ysgol uwchradd, na fyddai’n gallu derbyn nifer y disgyblion a fyddai’n dod o’u hysgolion cynradd cysylltiedig. Tu hwnt i 2029/20 byddai effaith hyn yn gwaethygu. Yn gyffredinol, mae Dewis A yn well i’r ddinas gyfan.    

 

·         Nododd aelodau y bydd y 79% o aelodau a ddewisodd Dewis B yn teimlo nad oes unrhyw un wedi gwrando ar eu safbwyntiau, ac aethant ymlaen i ofyn sut oeddent yn mynd i ddelio â hyn.

·         Nododd yr Aelod Cabinet y byddai nifer o rieni yn teimlo'r un mor gryf am Ddewis A, a’i fod yn bwysig nodi na fyddai nifer o rieni a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i’r mater, gan gynnwys yr effaith ar yr holl ysgolion.  

 

·         Cytunodd aelodau fod angen datrysiad dinas eang gan holi p’un a fyddai’n fwy addas gweithredu’r newidiadau i’r meini prawf ar ôl asesu effaith Ysgolion Band B.

·         Esboniodd y Cyfarwyddwr nad oes unrhyw amser perffaith i wneud asesiad, bod angen diwygio’r meini prawf a byddai’n amser hir cyn cael canlyniad Band B.  Ychwanegodd ei fod yn bwysig cyfnerthu a chadarnhau'r broses derbyn i ysgolion nawr gyda phoblogaeth sy’n cynyddu’n gyflym.

 

·         Amlygodd aelodau bod yr adroddiad addysg yn dangos gwelliant ar draws yr holl ysgolion uwchradd, gan ofyn beth y gellid ei wneud i hyrwyddo ysgolion nad ydynt mor boblogaidd.

·         Cafodd aelodau wybod bod Ysgolion Uwchradd Willows a Cathays wedi bod yn gweithio’n agos ag ysgolion cynradd. Gwnaethpwyd gwaith hefyd ar y ffurflenni cais i annog rhieni i ddewis mwy nag un ysgol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod newid eisoes ar waith, gydag Ysgol Uwchradd y Dwyrain nawr yn denu cynigion dewis cyntaf er enghraifft, a gydag ysgolion newydd sydd wedi agor dylem weld newid o ran dewisiadau disgyblion dros y flwyddyn nesaf.

 

·         Nododd aelodau er ein bod wedi gweld gwelliant ar draws ysgolion uwchradd, bydd oedi o ran canlyniadau gwell, ac mae rhieni yn edrych ar y rhain wrth ddewis ysgol.

·         Cytunodd y Cyfarwyddwr ei fod yn cymryd amser i ganfyddiadau newid, ond dylai Caerdydd fod yn falch o’r ffaith bod ysgolion yn gwneud yn well na gweddill Cymru. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet nad yw canlyniadau arholiadau o angenrheidrwydd yn adlewyrchu gwaith yr ysgol.      

 

Cafwyd hefyd nifer o gwestiynau yn ysgrifenedig gan Aelodau o’r Cyhoedd fel y manylir isod:

 

·         Nododd Gr?p Gweithredu Plant Marlborough (GGPM) fod y Cyngor fel pe bai’n blaenoriaethu anghenion Ffydd a Iaith Gymraeg dros y rheiny o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg.

·         Dywedodd yr Aelod Cabinet nad dyma’r achos, ac y gwnaethpwyd asesiad cytbwys o ysgolion ledled y ddinas.

 

·         Gofynnodd GGPM sut y bydd y Cyngor yn ymdrin â’r nifer uchel o geisiadau i Ysgol Uwchradd Caerdydd, sy’n rhoi disgyblion o Ysgolion Cynradd Marlborough a Pharc y Rhath dan anfantais. 

·         Esboniodd yr Aelod Cabinet fod canlyniad ymatebion y disgyblion i'r ymgynghoriad yn dangos taw agosrwydd i’r ysgol yw’r flaenoriaeth a bod yna ysgolion uwchradd agosach. Wrth fynd ymlaen, caiff y dalgylchoedd eu hadolygu ac ysgolion uwchradd eu hehangu.

 

·         Holodd GGPM p’un a fyddai Cynghorwyr yn fodlon siarad â disgyblion sydd ym mlwyddyn 5 a 6 yn ysgolion cynradd Marlborough a Pharc y Rhath ar hyn o bryd i drafod yr effaith y mae’r broses yn ei chael arnynt.  

·         Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai’n ystyried hyn, ond os byddai, byddai’n gwneud hynny er mwyn siarad â’r disgyblion o’i phrofiadau fel rhiant. 

 

·         Cafodd y mater o ddiffyg asesiad AEG ar Ddewis A ei godi eto.

 

·         Holwyd ymhellach pam y dewiswyd Dewis A, er bod y mwyafrif o ymatebwyr wedi dewis Dewis B.  Esboniodd y Cabinet y cafodd nifer o bryderon eu codi o ran Dewis B a fyddai’n effeithio ar nifer o ddisgyblion. Hefyd, nid wnaeth rhai rhieni a fyddai wedi cael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig ymateb i’r ymgynghoriad.

 

·         Nodwyd hefyd bod y mwyafrif o'r cyrff ffurfiol a fynegodd farn wedi dewis Dewis B a bod eu safbwyntiau wedi’u diystyru, atebodd yr aelod Cabinet drwy ddweud bod pob ymateb wedi’i ystyried a bod angen gwneud penderfyniad cytbwys.

·          Amlygodd yr adroddiad WISERD fod elfennau positif a negyddol i’r ddau ddewis.   

 

CYTUNWYD – bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu sylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: