Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: cymeradwyo Strategaeth Ranbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Caerdydd a Bro Morgannwg 2018-2023 (fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad)
Cofnodion:
Ystyriodd y Cabinet Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Caerdydd a Bro Morgannwg 2018-2023. Cydnabu’r strategaeth y gall unrhyw un (menywod, dynion, plant a phobl ifanc) gael profiad o drais yn erbyn menywod a thrais rhywiol a effeithir arnynt, a cheisiodd mynd i’r afael â thrais a cham-drin a gyfeirir tuag at fenywod, dynion merched a bechgyn a cham-drin a gyflawnir gan ddynion a menywod, a chydnabu y gall ddigwydd mewn unrhyw berthynas, ni waeth am ryw. Oedran, ethnigrwydd, rhywioldeb, anabledd, crefydd neu gred, incwm, daearyddiaeth neu ffordd o fyw. Fodd bynnag, cydnabu hefyd yr effeithir yn anghymesur ar fenywod a merched gan gam-drin domestig, trais a thrais rhywiol, ecsploetio rhywiol, (gan gynnwys trwy’r diwydiant rhyw), caethwasiaeth fodern, priodas dan orfodaeth, anffurfio organau cenhedlu benywod, ecsploetio a cham-drin rhywiol plant, stelcian ac aflonyddu rhywiol. Adroddwyd bod nifer o bartneriaid allweddol wedi cymryd rhan mewn datblygu strategaeth ac y bu'r ymgynghoriad yn amrywio'n eang.
PENDERFYNWYD: cymeradwyo Strategaeth Ranbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Caerdydd a Bro Morgannwg 2018-2023 (fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad)
Dogfennau ategol: