Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2018-21 i’w ystyried gan y Cyngor ar 22 Mawrth 2018; a
y argymhellir y Cyngor i ddirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gynllun Corfforaethol 2018-21 yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 22 Mawrth 2018 a chyn ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2018.
Cofnodion:
Trafododd y Cabinet y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2018-21. Mae’r Cynllun Corfforaethol yn rhan o fframwaith polisi strategol ac yn cyflawni dyletswyddau’r Cyngor dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Strwythurwyd y cynllun yn seiliedig ar bedair blaenoriaeth Uchelgais Prifddinas: Gweithio dros Gaerdydd, Gweithio dros Gymru, Gweithio dros y Dyfodol a Gweithio dros y Gwasanaethau Cyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2018-21 i’w ystyried gan y Cyngor ar 22 Mawrth 2018; ac
2. argymell bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gynllun Corfforaethol 2018-21 yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 22 Mawrth 2018 a chyn ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2018.
Dogfennau ategol: