Penderfyniad:
Ni ddylid cyhoeddi Atodiadau 3 a 4 yr adroddiad hwn am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio o’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 ran 4 a pharagraff 21 rhan 6 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD cytuno ar brynu’r safle ger Cyffordd 30 yr M4 fel yr amlinellir yn Atodiad 1.
Cofnodion:
Ni chyhoeddir Atodiadau 3 a 4 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn nodi cynigion i brynu tir wrth ochr Cyffordd 30 yr M4. Nodwyd mai’r bwriad yw defnyddio’r safle i ddiweddaru nifer o wasanaethau allweddol y Cyngor ar gyfer y dyfodol wrth i boblogaeth y ddinas dyfu drwy ddatblygu safleoedd tai strategol yng Ngogledd Caerdydd.
PENDERFYNWYD cytuno ar brynu’r safle ger Cyffordd 30 yr M4 fel yr amlinellir yn Atodiad 1.
Dogfennau ategol: