(i) |
Bydd y Cynghorydd Bradbury (Aelod Cabinet – Diwylliant a Hamdden) yn gwneud datganiad ar elfen Chwarae Plant ar y cynigion drafft ar gyfer y gyllideb a’i gysylltiadau â’r Cynllun Corfforaethol.
|
(ii) |
Bydd Neil Hanratty (Cyfarwyddwr – Datblygu Economaidd) a Jon Maidment (Rheolwr Gweithredol Parciau a Chwaraeon) yn rhoi cyflwyniad ar elfen Chwarae Plant y cynigion drafft ar gyfer y gyllideb a ddylai gael eu cynnwys yn y cynigion arbedion.
|
(iii) |
Cwestiynau’r Aelodau. |
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Bradbury (Aelod Cabinet – Diwylliant a Hamdden) Jon Maidment (Rheolwr Gweithredol Parciau a Chwaraeon), ac Ian Allwood (Pennaeth Cyllid) i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad byr. Cynghorodd yntau Aelodau bod modd cyflawni'r cynigion arbedion gyda'r lleihad mewn costau Rheoli Cyfleusterau a thrwy golli swyddi; mae dwy swydd wag ac mae un yn cael ei dileu o ganlyniad i ddiswyddiad gwirfoddol.
Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
• Cynghorwyd Aelodau na fydd unrhyw effaith o ganlyniad i golli swyddi ac nad oes effaith wedi bod chwaith.
• Cafodd Aelodau sicrwydd y byddai Chwarae Plant yn aros yn yr un Gyfarwyddiaeth.
Hoffai’r Cabinet weld rhyngweithio agosach ac integreiddio yn y dyfodol gyda Gwasanaethau Ieuenctid er mwyn creu llwybr chwarae ar gyfer plant rhwng 0 a 17 oed.
• Cynghorwyd Aelodau nad oes unrhyw doriadau mawr i Chwarae Plant yn yr arfaeth.
At hynny, rhannu adnoddau ag eraill yw dyfodol Chwarae Plant i sicrhau y caiff y gwasanaeth ei gyflawni'n effeithiol. Mae canolfan chwarae Trelái’n fodel gadarnhaol ar gyfer hynny.
• Cynghorwyd Aelodau fod potensial i’r Gwasanaethau Ieuenctid a’r gwasanaeth Chwarae Ieuenctid weithio yn yr un adeilad yn Llanrhymni.
• Holodd Aelodau ynghylch y projectau yn Neuadd Eglwys Trelái a chyfeirion nhw at arian ac arbenigedd.
Cynghorodd Swyddogion fod gan y gweithwyr chwarae eu hunain arbenigedd ac os oes projectau eraill y gellid eu defnyddio ar gyfer Chwarae Plant a fyddai'n elwa ar arbenigedd, er enghraifft y project gerddi cymunedol yn y Tyllgoed, câi ystyriaeth ei rhoi i ddarparu'r arbenigedd hwnnw. Cafodd Aelodau sicrwydd bod staff yn mwynhau'r model newydd o weithio mewn gwahanol leoliadau ac y bydden nhw'n barod i fynd i gyfarfod craffu i rannu eu barnau.
• Cadarnhawyd i Aelod mai yn achos absenoldeb salwch hirdymor yn unig y defnyddir staff asiantaeth yn y gwasanaethau chwarae.
• Roedd yn rhyddhad gan aelodau glywed fod y model newydd yn gweithio'n dda, yn enwedig o gofio’r problemau cychwynnol.
CYTUNWYD – bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu sylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.