English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cynigion Drafft ar gyfer y Gyllideb 2018/19

Cofnodion:

Trosolwg Corfforaethol

 

Croesawodd y Cadeirydd y  Cynghorydd Weaver (yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad), ac Ian Allwood (Pennaeth Cyllid) i’r cyfarfod.

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Weaver i wneud datganiad gan ddweud y bu’r gyllideb hon yn un eithriadol o anodd i’w llunio, fodd bynnag bu cynnydd yng nghyllidebau Ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol.  

 

Traddododd Ian Allwood gyflwyniad i’r Aelodau gan dynnu sylw at amryw faterion:

 

·         Trosolwg ar y Setliad Terfynol;

·         Ymgynghori gan gyfeirio’n benodol at y tair blaenoriaeth buddsoddi;

·         Cyllideb Refeniw Ddrafft;

·         Rhagolygon Tymor Canolig; a

·         Rhaglen Gyfalaf Ddrafft;

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

·         O ran mynd i’r afael â’r Bwlch Tymor Canolig, holodd Aelodau i ba raddau  y gellid cyflawni’r arbedion a gynigiwyd dros y 2-3 mlynedd nesaf ac ym mha feysydd yr oedd hi’n fwriad gwneud yr arbedion hynny. 

Cynghorodd Swyddogion fod y cynigion ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2019/20 dan ystyriaeth; rhaid rheoli galw a phennwyd rhagdybiaethau ar sail y twf a ragwelwyd yn y boblogaeth. Os gall gwasanaethau ateb y galw, bydd hynny yn ei dro’n lleihau’r bwlch yn y gyllideb.  Bydd rhagor o ddigideiddio hefyd yn cyfrannu at leihau’r gost o gyflawni’r gwasanaeth.

·         Gofynnodd Aelodau am eglurhad o b’un a fyddai digideiddio’n effeithio ar y lleihad net o FTE o 24. 19 o swyddi a chawson nhw wybod y bydd yn effeithio ar bob un o feysydd y Cyngor a byd hefyd yn cyfrannu at bontio’r bwlch yn enwedig lle mae cyllidebau’n sylweddol.

·         O ran y trosolwg o’r Gyllideb Refeniw, holodd Aelodau ynghylch y risg weddilliol Coch/Coch-Oren £6.2 miliwn a gofynnon nhw am wybodaeth am y gwasanaethau yr effeithiwyd arnyn nhw. 

Cynghorodd Swyddogion y byddai effaith ar Wasanaethau Cymdeithasol ac Addysg a bod gwybodaeth fwy manwl yn yr adroddiad cyllideb llawn.

·         Cododd Aelodau bryderon am y broses ymgynghori a’r atebion a gadwyd – yn eu tyb nhw roedd y fethodoleg yn eang a holon nhw p’un a oedd proffil yr ymatebwyr yn adlewyrchu proffil pobl Caerdydd a ph’un a bennwyd y tair blaenoriaeth ar sail niferoedd ymatebwyr neu p’un a gawson nhw eu pwysoli mewn unrhyw ffordd. 

Cytunodd Swyddogion yr ymddengys fod y broses ymgynghori yn rhoi mwy o bwysau i bobl 55+ oed a’r sawl sy’n byw yng Ngogledd y ddinas. Dywedon nhw yn aml na cheir ymatebion gan bobl o grwpiau oedran neu ardaloedd eraill.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol), Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant), Ian Allwood (Pennaeth Cyllid) ac Alan Evans (Rheolwr Gweithredol – Cyfrifyddiaeth) i’r Cyfarfod.

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad. Amlinellodd yr heriau mawr o ran pennu cyllideb i’r Gyfarwyddiaeth ag ystyried anghenion cymhleth plant yng ngofal yr awdurdod lleol a niferoedd cynyddol plant yn y ddinas.  

Rhoddodd Tony Young ac Irfan Alam gyflwyniad i Aelodau ar gyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol gan gyfeirio at y canlynol:

 

  • Trosolwg o’r Gyllideb;
  • Dyraniadau Ychwanegol;
  • Pwysau Penodol a Dderbynnir;
  • Cynigion Arbedion ar gyfer Gwasanaethau Plant;
  • Cynigion Arbedion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion;
  • Dulliau o ateb Heriau’r Gyllideb; a
  • Trosolwg Ariannol

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·         Holodd Aelodau p’un a oedd yr ad-drefniad £3.99 miliwn yng Nghyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud yn benodol â gorwariant ar leoliadau y tu allan i'r sir y flwyddyn hon a chawson nhw eu cynghori ei fod yn ymwneud â phwysau ar Wasanaethau Plant ac Oedolion. 

Cynghorodd swyddogion y bu cynnydd yn nifer y plant yng ngofal yr awdurdod lleol yn y 12 mis diwethaf.  Cafodd Aelodau eu cynghori mai 920 fydd nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal ym mis Mawr 2019. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod y ffigurau hyn yn seiliedig ar y duedd ym Mis Tachwedd 2016 a rhagwelir y bydd y ffigurau’n parhau i gynyddu tan 2021-22 pan fydd y momentwm yn ei ôl. 

·         Holodd Aelodau p’un a ymgorfforwyd yr rhagamcanion o gynnydd yn y niferoedd yn y gyllideb.

Cynghorodd Swyddogion mai ad-drefnu'r gyllideb yn llawn yw'r dull sy'n cael ei roi ar waith.  Nifer y plant sydd wedi dod dan ofal yr awdurdod lleol sydd wedi peri'r gorwariant ac mae cronfa rhag ofn o £950,000 gan Wasanaethau Plant.

·         Holodd Aelodau p’un a yw’r gronfa honno’n rhy isel a p’hun a yw felly’n ychwanegu at y pwysau. 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod pryderon am dwf costau gofalu am blant a bod y twf yn anghynaliadwy. Mae’n bwysig sicrhau mai plant sydd angen gofal yn unig sy’n ei gael . Cafodd aelodau eu cynghori y bu arbedion o £2.5 miliwn drwy ail-leoli plant gyda'u teuluoedd lle y bu modd.  Cynghorodd y Cynghorydd Hinchey os na fydd dim yn newid, mae’r ffigur ad-drefnu o £3.99 miliwn yn gywir, fodd bynnag, nid yw'r gronfa rhag ofn wedi'i diwygio ers 3 blynedd.       

·         Holodd Aelodau p'un a oes modd arbed £680,000 ar leoliadau y tu allan i'r sir a holon nhw faint o blant a fydd yn cael budd o'r cartref plant newydd. 

Roedd swyddogion o'r farn bod yr arbedion yn realistig.  Mae gan y cartref newydd, nad yw ym meddiant y Cyngor nac yn cael ei weithredu ganddi, leoedd ar gyfer 3 o blant ac mae'r tri yn cael eu dewis ar hyn o bryd. Mae’n bwysig nodi, o gofio costau ariannu lleoliadau preswyl, dim ond 2 neu 3 sydd angen eu hail-leoli yng Nghaerdydd i gyflawni’r arbedion hynny.   

·         Holodd Aelodau p’un a fydd y cartref plant newydd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth nad yw Caerdydd yn ei rhoi ar hyn o bryd.

Dywedodd Swyddogion nad ar sail y cartref plant yn unig y mae’r arbediad wedi’i rhagweld. Mae swyddogion wedi adnabod nifer o blant a fydd erbyn diwedd y flwyddyn academaidd yn gallu dod yn ôl i Gaerdydd.

Addysg

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Neil Hardee (Pennaeth Perfformiad Adnoddau a Gwasanaethau Addysg), Ian Allwood (Pennaeth Cyllid) a Robert Green (Cyfrifydd y Gr?p) i’r cyfarfod.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad. Nododd hithau fod symiau ychwanegol bellach ar gael i ysgolion, ond nid yw'r swm yn ddigonol o ystyried yr holl bwysau ariannol.  

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddatganiad byr gan atgoffa aelodau o’r blaenoriaethau yn y Cynllun Corfforaethol gan eu bod yn ymwneud â’r Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gyfeirio at y rhaglen adnewyddu asedau ariannu a’r arian ychwanegol ar gyfer darpariaeth ADY.

 

Gwnaeth Neil Hardee (Pennaeth Perfformiad Adnoddau a Gwasanaethau addysg) gyflwyniad i’r Aelodau gan amlinellu nifer o bwyntiau:

 

·         Y Cynllun Corfforaethol;

·         Y Gyllideb Refeniw;

·         Y Gyllideb Gyfalaf;

·         Y Gyllideb Ddirprwyedig i Ysgolion; a

·         Grantiau

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·         Cyfeiriodd Aelodau at y cap 30% ar dwf ysgolion ac ar ddiffygion cyllideb ysgolion. 

Cynghorodd Swyddogion fod cyllidebau ysgolion Caerdydd yn y gwyrdd ar y cyfan.  Yn gyffredinol, mae gan ysgolion cynradd gyllid yn weddill ac mae ysgolion uwchradd wedi gorwario.  Mae tîm o swyddogion wedi'i aseinio i weithio'n agos gyda phob ysgol i fynd i'r afael â balansau negyddol; i ystyried rheolaeth ariannol ac i weithio tuag at greu cynllun ariannol canolig.

Cynghorodd swyddogion y bydd colli cyllid ôl16 oed yn effeithio ar ysgolion uwchradd.

 

·         Yn nhermau cyllideb Gyfalaf, gofynnodd Aelodau am eglurhad o ran sut y caiff y £1.300 miliwn ar waith DDA yr Eglwys Newydd ei wario a ph'un a eir i'r afael â gwaith DDA ar gyfer ysgolion eraill. 

Cynghorodd Swyddogion fod gan yr Eglwys Newydd Ganolfan Adnoddau Arbenigol a nifer uchel o blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rhaid gwneud gwaith er mwyn i'r Eglwys Newydd gydymffurfio â DDA yn well.  Roedd arian ar gael yn y gyllideb Cynaliadwyedd ac Asedau i wella hygyrchedd DDA mewn ysgolion eraill.    

·         Cyfeiriodd Aelodau at y swm sylweddol ychwanegol y mae angen ei fenthyg i gyfateb cyllid B gan Lywodraeth Cymru a holodd sut y penderfynir ar y penderfyniad am fenthyg. 

Cynghorodd swyddogion yr ystyrir basged fenthyca dros y Cyngor cyfan ac er bod benthyg yn cynyddu mae'r Swyddog Adran 151 o'r farn bod gwydnwch yn parhau i fod yn fforddiadwy.   Mae’n bwysig buddsoddi lle y mae angen. 

·         Nododd Aelodau fod pwysau cynyddol ar ysgolion oherwydd y newidiadau demograffeg mewn wardiau presennol ac y bydd ysgolion uwchradd yn orlawn erbyn 2019. Cynghorodd swyddogion y bydd datblygiadau newydd yn adran 106 o’r CDLl yn creu arian. Bydd hwn yn ei dro'n cael ei ddefnyddio i adeiladu ysgolion newydd yn yr ardaloedd hynny ac er y bydd 2019/20 yn flwyddyn anodd, bydd Band B mewn lle i leddfu'r pwysau.   

·         Tynnodd Aelodau sylw at y targed arbedion o £200,000 ar gyfer staff mewn timau canolog a holodd sut y rheolir hyn gan fod angen cymorth ar ysgolion o hyd.

Esboniodd swyddogion y bu toriadau staffio sylweddol ond maen nhw wedi bod yn cydbwyso’r rolau.  Mae'r arbedion yn bosibl, ac er y buasai'n well peidio â gwneud y toriadau, mae swyddogion yn fodlon bod modd eu gwneud a bod modd cyflawni'r swyddogaethau angenrheidiol.

 

Trafnidiaeth Ysgol

 

Croesawodd y Cadeirydd Steve Gerrard (Arweinydd Tîm Gweithrediadau Rhwydwaith) i’r cyfarfod.  Cafodd Aelodau gyflwyniad o’r Cynigion Cyllideb Ddrafft:

 

·         Ffigurau Cyllided Rheoladwy Refeniw 2018/19;

·         Pwysai ariannol a gynhelir;

·         Cynigion Arbedion - creu incwm ac adolygu gwariant Allanol;

·         Heriau Allweddol; a

·         Y Camau Nesaf

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, gofyn am eglurhad pellach neu wneud sylwadau. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

·         Mynegodd Aelodau bryder am y Lwfans Cymorth Teithio a fydd yn mynd yn uniongyrchol at rieni i gludo eu plant i’r ysgol, h.y p’un a fyddai’r arian yn mynd at y diben a fwriadwyd, yr effaith ar yr amgylchedd oherwydd mwy o gerbydau a ph'un a ellid gwneud arbedion. 

Cynghorwyd Aelodau y câi rhieni eu talu bob tymor ac y byddai'r swm yn cael ei seilio ar bresenoldeb.  Os nad yw presenoldeb yn bodloni'r lefelau boddhaol, câi'r taliadau eu stopio. Rhagwelir y bydd tua 150 o rieni’n symud i’r system honno a chydnabuwyd y byddai hynny o bosibl yn effeithio ar yr amgylchedd.  Gofynnodd aelodau am eglurhad ynghylch i bwy y gwerthir seddi sydd ar ôl ar y bws.  Esboniodd Swyddogion y cân nhw eu cynnig i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael trafnidiaeth am ddim .  Dyna bron i 200 o ddisgyblion.  Bydd y cymhorthdal ar gyfer lleoedd bws i’r ysgol yn cael ei leihau.

·         Holodd Aelodau ynghylch y arbedion o £27,000 a chawson nhw eu cynghori y bydd hynny o ganlyniad i adolygu trafnidiaeth ar bob Disgybl â Datganiad, ac y caiff yr adolygiad ei gynnal fesul achos. 

·         Holodd Aelodau p’un a fyddai arbedion trafnidiaeth yn effeithio ar ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. 

Cafodd Aelodau eu cynghori nad yw trafnidiaeth yn cael prawf modd ar hyn o bryd, ac mae Swyddogion yn ystyried opsiynau ar Brydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd.  Mae costau teithiau i'r ysgol ar y bws yn fwy na chost pryd ysgol ac mae'r effaith ar bresenoldeb wedi dod i'r amlwg.

·         Mynegodd Aelodau bryder am drefniadau teithio i Ysgol Uwchradd Llanisien a chodon nhw nifer o faterion:

o   Does dim gwregysau ar y rhan fwyaf o fysus;

o   Bydd bysus yn aml yn llawn a bydd gofyn i lawer o blant sefyll;

o   Tybir nad yw cerbydau’n addas at y diben;

o   Ni roddir fideos CCC o ddigwyddiadau’n amserol.

·         Cynghorwyd Aelodau y bu cyfarfodydd gyda Phennaeth Ysgol Uwchradd Llanisien a NAT i drafod amryw faterion.

Holodd Aelodau ynghylch cost lleoedd trafnidiaeth ysgol a chawson nhw eu cynghori bod  NAT yn codi £420 dros 7 mis sy’n swm llai na’r drafnidiaeth y mae’r Cyngor yn ei darparu, ac mae'r opsiynau y mae NAT yn eu cynnig yn fwy hyblyg.  Mae bysus NAT yn wasanaethau masnachol ac felly does dim modd i'r Cyngor ddylanwadu ar gostau nac opsiynau y mae NAT yn penderfynu arnyn nhw.

 

·         Holodd Aelodau sut y mae gyrwyr tacsi sy’n clud plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu monitro a’u talu, a chawson nhw eu cynghori bod taliadau’n cael eu gwneud bob mis. 

O ran monitro, mae’r tîm yn gwneud gwiriadau achlysurol ac yn siarad ag athrawon a rhieni.  Maen nhw hefyd yn ystyried cofnodion presenoldeb amryw ddisgyblion.

 

CYTUNWYD – bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet i gyfleu sylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.