English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2019/20

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.       y dylid pennu Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 fel y nodir ym  Mholisi Derbyniadau 2019/2020.

 

2.       y nodir bod y Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 yn gweithredu Opsiwn A ar gyfer derbyn i addysg uwchradd, fel y nodir yn y Ddogfen Ymgynghori ar Drefniadau Derbyn (Atodiad 2).

 

y nodir y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad canlyniadol ar newidiadau i ddalgylchoedd ysgol ar gyfer 2020/2021.

Cofnodion:

Bu i’r Cyng. Caro Wild ddatgan buddiant bersonol a rhagfarnus yn yr eitem hon oherwydd bod ganddo blentyn y byddai’r newidiadau’n effeithio arno.  Gadawodd y Cyng. Wild y cyfarfod ac ni fu’n rhan o’r penderfynu.  

 

Yn unol ag Adran 89 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006, gofynnir i'r Cyngor adolygu'r Polisi Derbyn i Ysgolion bob blwyddyn.  Felly ystyriodd y Cabinet y Polisi Trefniadau Derbyn i Ysgolion ar gyfer 2018/19. Bu’r polisi’n destun ymgynghori â phenaethiaid, cyrff llywodraethu, cyfarwyddwyr esgobaethol, awdurdodau addysg lleol cyfagos a chyrff eraill â diddordeb.  

 

Yn dilyn ystyriaeth gan y Cabinet ar 16 Tachwedd 2017, cynhaliwyd ymgynghoriad yn ymateb i ganfyddiadau ymchwil Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru a gwahoddwyd sylwadau ar ddewisiadau eraill ar gyfer derbyn i addysg uwchradd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys ac yn gwerthuso’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            y dylid pennu y Trefniadau Drafft ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 fel y nodir ym Mholisi Derbyniadau 2019/2020.  Mae’r rhain wedi eu hatodi.

 

2.            y nodir bod y Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 yn gweithredu Opsiwn A ar gyfer derbyn i addysg uwchradd, fel y nodir yn y Ddogfen Ymgynghori ar Drefniadau Derbyn (Atodiad 2).

 

3.            y nodir y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad dilynol ar newidiadau i ddalgylchoedd ysgol ar gyfer 2020/2021.

 

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.