Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Bablin Molik
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Joe Carter
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
· Mae’r adroddiad ‘Trapped in a Bubble’ yn amcangyfrif bod 18% o bobl yn teimlo’n unig ‘drwy’r amser’ neu ‘yn aml’.
· Byddai hyn gyfystyr â 62,000 o bobl yng Nghaerdydd - mae pobl o bob oedran, cefndir ethnig, gallu a hunaniaeth rywiol yn agored i unigrwydd
· Tra bod ffactorau unigol â rhan allweddol i'w chwarae, gall ffactorau cymunedol a chymdeithasol gyfrannu at unigrwydd
· Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall diffyg cysylltiadau cymdeithasol fod mor niweidiol i’n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd
· Mae gwaith project a gomisiynwyd gan yr Eden Project yn amcangyfrif bod allgau cymdeithasol a chymunedau digyswllt yng Nghymru yn costio £2.6 biliwn y flwyddyn
· mae gan y trydydd sector rôl ganolog i'w chwarae yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac allgau
· Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau i atal unigrwydd yn gwella iechyd a llesiant yn yr hirdymor ac yn arbed arian i gyllidebau iechyd a chymdeithasol a chymdeithas gyfan.
Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:
Llunio strategaeth i fynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghaerdydd gan roi ystyriaeth i’r canlynol:
· Partneriaeth glos gyda sefydliadau trydydd sector
· Defnyddio ystod o ymyriadau sydd eisoes ar waith mewn ardaloedd eraill megis modelau cenedlaethau’n cydfyw, gwasanaethau cyfeillio, clybiau cymdeithasol a chyfleoedd i wirfoddoli
· Defnyddio rôl landlord corfforaethol y cyngor i alluogi grwpiau sy’n mynd i'r afael ag unigrwydd i ddefnyddio mwy ar gyfleusterau awdurdod lleol
· Annog ysgolion, colegau a phrifysgolion i greu diwylliant sy'n gwirfoddoli ymhlith eu myfyrwyr er mwyn mynd i’r afael a’r blwch rhwng y cenedlaethau ac annog ymgysylltiad a chyfranogiad.
Dogfennau ategol: