Eitem Agenda

Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu Drafft a Gofynion y Cynllun Cyflenwi 2018 tan 2021

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   Fel y nodwyd yn Strategaeth Rheoli Gwastraff Ailgylchu 2015-18,

 

a.  cymeradwyo’r cynnig i ehangu ymhellach y darpariaeth biniau olwynion fel y nodir yn Atodiad A2 i'r adroddiad

 

 

b.  cymeradwyo’r cynnig i greu gorsafoedd addysg Canolfan Ailgylchu Gwastraff Y Cartref (CAGC); a

 

c.   cymeradwyo cynllun peilot ar gyfer casglu gwastraff gwydr domestig, ar wahân i gasgliadau gwastraff eraill y cartref

 

2.   cymeradwyo cynnal ymgynghoriad dinas gyfan ar Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-21, gan gynnwys y prif gynigion ar gyfer newidiadau i'r strategaeth ddrafft, gofynion seilwaith newydd, safonau gwasanaeth a chynigion eraill a godwyd yn yr adroddiad

 

3.   Cymeradwyo gwneud adolygiad gwastraff ac ailgylchu annibynnol a fydd yn cynorthwyo gyda sicrhau bod holl agweddau ar y Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu drafft yn flaengar ac yn gadarn

 

4.   cytuno i archwilio cydweithredu rhanbarthol, law yn llaw â Llywodraeth Cymru, ar ddatblygu achos busnes amlinellol cychwynnol a dewisiadau gwerthuso ar gyfer y cynnig i ddatblygu cyfleuster ailgylchu rhanbarthol.

 

5.   derbyn adroddiad pellach yn dilyn ymgynghoriad ac erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018/19 a fydd yn ystyried y posibilrwydd o weithredu casgliadau gwastraff gwydr ar wahân yn ehangach a fersiwn derfynol o Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-21 i’w chymeradwyo.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys y Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu drafft er mwyn ymgynghori arno. Amlinellodd yr adroddiad hefyd gynigion i ehangu’r ddarpariaeth ymhellach yn y ddinas ar gyfer biniau ag olwynion, darparu gorsafoedd addysg canolfan ailgylchu gwastraff y cartref a chynllun peilot i gasglu gwastraff gwydr domestig i’w ailgylchu, ar wahân i gasgliadau gwastraff y cartref eraill.Adroddwyd y byddai ymgynghori ag Aelodau Lleol yn mynd rhagddo ar bob ffrwd ar yr adeg priodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            Fel yr amlinellwyd yn y Strategaeth Rheoli Gwastraff Ailgylchu 2015-18,

 

a.    cymeradwyo’r cynnig i ymestyn ymhellach y ddarpariaeth biniau olwynion fel y nodir yn Atodiad A2 i'r adroddiad

 

b.    cymeradwyo’r cynnig i greu gorsafoedd addysg Canolfan Ailgylchu Gwastraff Y Cartref (CAGC); a

 

c.     cymeradwyo cynllun peilot i gasglu gwastraff gwydr domestig ar gyfer ailgylchu, ar wahan i gasgliadau gwastraff y cartref eraill

 

2.            Cymeradwyo ymgymryd ag ymgynghoriad ledled y ddinas ar y Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-21, gan gynnwys cynigion newid allweddol yn y strategaeth ddrafft, gofynion seilwaith newydd, safonau gwasanaeth a chynigion eraill a godwyd yn yr adroddiad hwn

 

3.            cymeradwyo cynnal adolygiad ailgylchu gwastraff annibynnol, a fydd yn help i sicrhau y bydd pob agwedd ar y Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-21 yn flaengar a chadarn

 

4.            cytuno i archwilio cydweithredu rhanbarthol, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, ar ddatblygu gwerthusiad achos busnes amlinellol cychwynnol a dewisiadau ar gyfer y cynnig i ddatblygu cyfleuster ailgylchu rhanbarthol.

 

5.            Adroddiad pellach i gael ei baratoi yn dilyn ymgynghori ac erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2018/19, a fydd yn ystyried mabwysiadu graddol ehangach ar gasgliadau gwastraff gwydr a fersiwn derfynol o  Strategaeth Rheoli Gwastraff 2018-21 i gael ei chymeradwyo

Dogfennau ategol: