Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Neil McEvoy
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Keith Parry
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r cynnig i ddympio 300,000 tunnell o fwd o'r tu allan i Orsaf B?er Niwcliar Hinkley Point yn nyfroedd Caerdydd.
Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i nodi'r Egwyddor Ragofalus a nodir yn Erthygl 191 y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.Nod yr egwyddor yw sicrhau lefelau diogelu'r amgylchedd uwch drwy wneud penderfyniadau ataliol pan fo’r rheiny’n peri risg. Hynny yw, gwell rhwystro clwy' na'i wella, a elwir hefyd yr 'egwyddor ataliol'.
O ystyried nad yw'r dogn o ymbelydredd posibl yn y deunydd Hinkley Point sy’n is na 5cm wedi’i fesur a hefyd mai dim ond 5 sampl at ddyfnderoedd o dan 5cm sydd ar gael, mae’r Cyngor hwn o’r farn er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, y bydd y Cyngor yn talu am ddadansoddiad trylwyr ac annibynnol o'r mwd dan sylw, mewn ymgynghoriad â CEFAS a'r ymgyrchwyr y tu ôl i'r ddeiseb y bwriedir ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dogfennau ategol: