Eitem Agenda

Cynnig 3

Cynigiwyd gan:                       Y Cynghorydd Graham Thomas

 

Eiliwyd gan:     Y Cynghorydd Joel Williams

 

1)    Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod chwe Chyngor cymuned yng Nghaerdydd, sef:

 

·         Cyngor Cymuned Llys-faen

·          Cyngor Cymuned Pentref Llaneirwg

·         Cyngor Cymuned Pentyrch

·         Cyngor Cymuned Radur a Phentre-poeth

·         Cyngor Cymuned Sain Ffagan

·         Cyngor Cymuned Tongwynlais

 

2)    Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y gwaith caled a wneir gan aelodau swyddogion y Cynghorau Cymuned dan sylw ac yn nodi bod llawer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn wirfoddolwyr.

3)     Heb ymdrechion y Cynghorau Cymuned, byddai nifer o amwynderau lleol yn cau ac ni fyddai digwyddiadau yn y cymunedau hyn yn cael eu cynnal.

Fodd bynnag, gall swyddi gwag fod yn anodd eu llenwi weithiau a gall fod diffyg ymgeiswyr yn etholiadau Cyngor Cymuned, gan arwain at ddiffyg democratiaeth.

4)    Mae’r Cyngor hwn hefyd yn nodi yn hanesyddol dros lawer o flynyddoedd y bu sianeli cyfathrebu rhwng Cynghorau Cymuned a Chyngor Caerdydd yn wan neu na fu unrhyw sianeli cyfathrebu o gwbl.

Mae hyn yn cynnwys anfon hysbysiadau i Gynghorau Cymuned am waith arfaethedig ar y briffordd neu gynnwys Cynghorau Cymuned yn y gwaith o benderfynu ar geisiadau cynllunio a’r dulliau gorau o  ddefnyddio arian Adran 106.   

 

5)    Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet, ar y cyd â’r Cynghorau Cymuned, i ystyried sut y gellir gwella ac atgyfnerthu cysylltiadau.

6)     Efallai y bydd y Cabinet am ystyried y canlynol:

(i)            A oes unrhyw feysydd lle gellid cyfuno gwasanaethau (e.e. un ai y Cyngor Cymuned neu Gyngor Caerdydd yn torri glaswellt mewn ardal).

(ii)          Cyflwyno un pwynt cyswllt ar gyfer Cynghorau Cymuned.

(iii)          Dulliau o ymsefydlu Siarter y Cynghorau Cymuned ymhellach yng Nghyngor Caerdydd a chynyddu’r ymwybyddiaeth ohoni.

(iv)         Sicrhau cyswllt rheolaidd rhwng swyddogion allweddol a Chynghorau Cymuned, gyda’r rheiny yn mynd i gyfarfodydd Cynghorau Cymuned o bryd i’w gilydd.

(v)          Sut y gellir ehangu rôl Cynghorau Cymuned o ran gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio a chytundebau adran 106.

 

Dylai’r Cabinet gyflwyno adroddiad ar yr uchod cyn pen chwe mis.

 

 

Dogfennau ategol: