Eitem Agenda

Rhwydwaith Gwres Caerdydd: Cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerdydd

Penderfyniad:

Mae atodiadau C a D i’r adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag cael eu datgelu gan fod ynddynt wybodaeth i gydymffurfio â pharagraffau 14, 21 a pharagraff 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo mewn egwyddor Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerdydd ac y dylid awdurdodi datblygiad Achos Busnes Terfynol gael ei gyflwyno i’r Cabinet yn amodol ar sicrhau'r cyllid priodol fel y'i nodir yn yr adroddiad.

 

2.   awdurdodi’r tîm project i fwrw ymlaen â’r ceisiadau grant mewn perthynas â HNDU a HNIP fel y’i nodir yn yr adroddiad;

 

3.   y dylid awdurdodi’r tîm project i fwrw ymlaen ag ymgysylltiad pellach gyda rhanddeiliaid fel y’i nodir yn yr adroddiad;

 

4.   dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd a’r Swyddog A151 a’r Swyddog Monitro i (i) orffen y strategaeth gaffael a bwrw ymlaen â’r gwaith o gaffael contractwr Dylunio, Adeiladu, Gweithredu a Chynnal (DAGCh) y project, a delio’n gyffredinol â phob agwedd ar y project a phennu'r contract DAGCh ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol a (ii) Cytuno ar fân ddiwygiadau i'r OBC gyda'r Cyfarwyddwr mewn ymgynghoriad â’r rheiny a nodir uchod er budd y Cyngor ac os yw natur y project yn wahanol iawn, cyfeirio'r project yn ôl at y Cabinet

 

 

Cofnodion:

Eithrir atodiadau C a D rhag cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth yn unol â pharagraffau 14 a 21 a pharagraff 16 atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys canlyniad astudiaeth o ddichonoldeb manwl ac Achos Busnes Amlinellol ar Rwydweithiau Gwres Rhanbarth yng Nghaerdydd ynghyd â manylion ar y rhwydwaith arfaethedig  a’r camau nesaf angenrheidiol i sicrhau'r cyllid perthnasol.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerdydd mewn egwyddor, ac awdurdodi’r gwaith o ddatblygu Achos Busnes Terfynol ymhellach i’r Cabinet ei gymeradwyo yn amodol ar sicrhau'r cyllid priodol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

2.            Awdurdodi’r tîm projectau i barhau gyda'r ceisiadau am grantiau o ran HNDU a HNIP fel y nodir yn yr adroddiad.

 

3.            Awdurdodi’r tîm projectau i ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid y cyfeirir atynt yn yr adroddiad;

 

4.            Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glan, Ailgylchu a’r Amgylchedd a’r Swyddog A151 a’r Swyddog Monitro i (i) gwblhau’r strategaeth gaffael a dechrau caffael contractwr Dylunio, Adeiladu, Gweithredu a Chynnal (DAGC) ar gyfer y project, yn gyffredinol ddelio gyda’r holl agweddau ar y project a gwobrwyo’r contract DAGC ar ôl i’r Cabinet gymeradwyo’r Achos Busnes Terfynol a (ii) Cytuno ar fân diwygiadau i’r ABA sydd yn fanteisiol ym marn y Cyfarwyddwr wedi iddo ymgynghori â'r rheiny y cyfeirir atynt uchod er budd y Cyngor ar yr amod y caiff y project ei gyfeirio nôl i'r Cyngor os caiff ei natur ei newid yn sylweddol o'r hyn wedi'i nodi yn y ABA.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: