Penderfyniad:
Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi’r strategaeth gyffredinol arfaethedig i gaffael Contractau Trafnidiaeth Teithwyr am 7 mlynedd gwerth £49M drwy System Brynu Ddeinamig.
2. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant i gynnal pob agwedd ar y broses gaffael, yn ddigyfyngiad ac i gynnwys:
i. cymeradwyo sefydlu System Brynu Ddeinamig (SBD) newydd
ii. cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso tendr i sefydlu’r SBD newydd
iii. penodi darparwyr newydd i’r SBD newydd ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor
iv. dirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes y SBD newydd, ac i’r dirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.
v. delio â’r holl faterion cysylltiedig sy’n ymwneud â gwneud unrhyw estyniadau byrdymor i gontractau unigol y gallai fod eu hangen nes i gontractau newydd gael eu caffael dan y SBD newydd
Mae’r ddirprwyaeth a geisir yn eang ac yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, yr agweddau canlynol ar y broses gaffael:
(a) Cymeradwyo rhoi’r SBD newydd ar waith gan ddefnyddio rheolau Gweithdrefn Tendro Cyfyngedig Addasedig.
(b) Cytuno i ddefnyddio cyfuniad o e-arwerthiannau seiliedig ar filltiredd ac e-arwerthiannau am yn ôl i ddyrannu llwybrau penodol ar y pris mwyaf cystadleuol a gaiff ei gynnig drwy SBD.
(c) Penodi darparwyr gwasanaeth newydd i’r SBD, ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol fel y nodir gan y cyngor yn y dogfennau tendro, yn ôl y gofyn.
(d) Ar ôl hynny, y Cyfarwyddwr i ddirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes yr SBD newydd, ac i ddirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.
(e) Os, am unrhyw reswm technegol, nad oes modd defnyddio system gwbl electronig (SBD), i gynnal y broses gaffael drwy ddull arall (dull nad yw’n e-gaffael) a rheoli’r trefniadau contract a roddwyd ar waith.
Cofnodion:
Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn manylu ar strategaeth i dendro contractau newydd cysylltiedig â gwasanaethau Trafnidiaeth. Mae Gwasanaethau Trafnidiaeth i Deithwyr yn darparu ar gyfer nifer o wasanaethau’r Cyngor gan gynnwys Addysg, Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant. Nodwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau gan gynnwys ymysg eraill Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol, Gwasanaethau Bysus Ysgol Dynodedig a Chludiant Anghenion Dysgu Ychwanegol.
PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi’r strategaeth gyffredinol arfaethedig i gaffael Contractau Trafnidiaeth i Deithwyr am 7 mlynedd gwerth £49 miliwn drwy System Brynu Ddeinamig.
2. dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethu i gynnal pob agwedd ar y broses gaffael, yn ddigyfyngiad ac i gynnwys:
i. cymeradwyo System Brynu Ddeinamig (SBD) newydd
ii. cymeradwyo meini prawf gwerthuso tendr i sefydlu’r SBD newydd
iii. penodi darparwyr newydd i’r SBD newydd ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor
iv. dirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes y SBD newydd, ac i’r dirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.
v. delio â’r holl faterion cysylltiedig sy’n ymwneud â gwneud unrhyw estyniadau byrdymor i gontractau unigol y gallai fod eu hangen nes i gontractau newydd gael eu caffael dan y SBD newydd
Mae’r ddirprwyaeth a geisir yn eang ac yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, yr agweddau canlynol ar y broses gaffael:
(a) Cymeradwyo rhoi’r SBD newydd ar waith gan ddefnyddio rheolau Gweithdrefn Tendro Cyfyngedig Addasedig.
(b) Cytuno i ddefnyddio cyfuniad o e-arwerthiannau seiliedig ar filltiredd ac e-arwerthiannau am yn ôl i ddyrannu llwybrau penodol ar y pris mwyaf cystadleuol a gaiff ei gynnig drwy SBD.
(c) Penodi darparwyr gwasanaeth newydd i’r SBD, ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol y cyngor yn y dogfennau tendro, yn ôl y gofyn.
(d) Ar ôl hynny, y Cyfarwyddwr i ddirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes yr SBD newydd, ac i ddirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.
(e) Os, am unrhyw reswm technegol, nad oes modd defnyddio system gwbl electronig (SBD), cynnal y broses gaffael drwy ddull arall (dull nad yw’n e-gaffael) a rheoli’r trefniadau contract a roddwyd ar waith.
Dogfennau ategol: