Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo Cynllun Ardal Caerdydd a Bro Morgannwg (fel y nodir yn Atodiad 1)
Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Ardal (fel y nodir yn Atodiad 2) ar gyfer Anghenion Gofal a Chymorth 2018-2023.
Cofnodion:
Ychwanegodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 adran 14A at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol baratoi a chyhoeddi cynllun (y Cynllun Ardal), sy’n nodi ystod a lefel y gwasanaethau y maent yn cynnig eu darparu, neu drefnu eu darparu, yn ymateb i Asesiad Anghenion y Boblogaeth. Felly ystyriodd y Cabinet Gynllun Ardal Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer Anghenion Gofal a Chymorth 2018-2023.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo Cynllun Ardal Caerdydd a Bro Morgannwg (fel y nodir yn Atodiad 1)
2. Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Ardal (fel y nodir yn Atodiad 2) ar gyfer Anghenion Gofal a Chymorth 2018-2023.
Dogfennau ategol: