English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Man Claddu Newydd

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.  cefnogi cyflwyno cais cynllunio i geisio’r caniatâd angenrheidiol ar gyfer datblygu safle ar yr A469 i’r gogledd o’r M4 ac wedi’i nodi ar y map atodedig fel Atodiad 1 fel mynwent drefol.

 

2.  y bydd swyddogion yn ceisio negodi ildio’r cytundeb tenantiaeth cyfredol gan y llesddeiliaid er mwyn cymryd y tir angenrheidiol yn ôl ar ddyddiad cynt ac ar ôl hynny gyhoeddi hysbysiad terfynu o ran y denantiaeth.

 

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn manylu’r cynigion i ddatblygu ardal o dir y Cyngor tua’r gogledd o’r M4, ar yr A469 ar gyfer creu mynwent, yn dibynnu ar ganiatâd cynllunio. Mae’r safle yn 12.5 erw a bydd yn cynnig man claddu ar gyfer gogledd y ddinas am y 35—40 blynedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            cefnogi cyflwyno cais cynllunio i geisio’r caniatâd angenrheidiol ar gyfer datblygu safle ar yr A469 tua’r gogledd o’r M4, sydd wedi’i nodi ar y map atodol fel Atodiad 1, fel mynwent drefol.

 

2.            y bydd swyddogion yn ceisio negodi ildio’r cytundeb tenantiaeth cyfredol gan y lesddeiliaid er mwyn adfer y tir angenrheidiol ar ddyddiad cynharach, ac yna cyhoeddi hysbysiad terfynu o ran y denantiaeth.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.