Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo’r Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol.
2. fod y Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol hefyd yn gweithredu fel Polisi Cyflogaeth Moesegol y Cyngor ar gyfer cadwyni cyflenwi’r Cyngor.
Cofnodion:
Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar gynnig am Bolisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol. Nod y polisi yw darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer cyflwyno tri o fentrau Llywodraeth Cymru; Buddion Cymunedol, Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a Siart Caffael Cyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig.
Nod y polisi yw sicrhau bod pobl a chymunedau lleol yn manteisio ar y ffordd y mae’r Cyngor yn gwario arian ar nwyddau a gwasanaethau a dangos ymrwymiad y Cyngor i gyflogaeth foesegol a sicrhau ei fod yn gwneud y gorau o’r lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y mae’n ei gyflawni drwy gaffael.
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol,
2. bod y Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol hefyd yn gweithredu fel Polisi Cyflogaeth Foesegol y Cyngor ar gyfer cadwyni cyflenwi’r Cyngor.
Dogfennau ategol: