English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   y nodir y cyfle cyllid a gyflwynwyd gan Raglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu Llywodraeth Cymru a gofynion arian cyfatebol cysylltiedig;

 

2.  y cytunir ar themâu a phrojectau â blaenoriaeth ar gyfer y Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu a nodir yn yr adroddiad;

3.  y dirprwyir awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd a Chyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i gwblhau manylion am gyfraniad y Cyngor at y Cynllun Adfywio Rhanbarthol a pharatoi ceisiadau cyllid i’w hystyried dan y Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu.

 

Cofnodion:

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am raglen ariannu newydd i gynorthwyo projectau adfywio economaidd, cyflwynwyd canllawiau ar y Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi ei Dargedu ym mis Hydref 2017. Nod cyffredinol y Rhaglen Buddsoddi yw cynorthwyo projectau sy'n hyrwyddo adfywio economaidd, yn canolbwyntio ar bobl ac ardaloedd sydd fwyaf mewn angen. Gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion buddsoddi cyfalaf â’r nod o ehangu ffyniant a gwella lles cymunedol.  Felly ystyriodd y Cabinet y themâu a phrojectau blaenoriaeth sy’n sail i’r cynigion gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

 

1.                  y nodir y cyfle cyllid a gyflwynwyd gan Raglen Buddsoddiad Adfywio Wedi ei Dargedu Llywodraeth Cymru a gofynion arian cyfatebol cysylltiedig;

 

2.                  y cytunir ar themâu a phrojectau â blaenoriaeth ar gyfer y Rhaglen Buddsoddiad Adfywio Wedi ei Dargedu a nodir yn yr adroddiad;

 

3.                  y dirprwyir awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd a Chyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i gwblhau manylion am gyfraniad y Cyngor at y Cynllun Adfywio Rhanbarthol a pharatoi ceisiadau cyllid i’w hystyried dan y Rhaglen Buddsoddiad Adfywio Wedi ei Dargedu.

 

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.