English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Adroddiad Perfformiad Chwarter Dau - Gwasanaethau Plant

·         Bydd y Cynghorydd Graham Hinchey (yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd) yn bresennol a gallai fod am wneud datganiad;

·         Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) ac Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant) yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau gan yr Aelodau;

·         Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

·         Ystyrir camau i’w cymryd ar gyfer yr eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd) ac Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant) i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad.

 

Gwahoddwyd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad a dywedodd fod Chwarter 2 wedi bod yn rhesymol dda o ystyried y pwysau, y galwadau am wasanaethau a'r goblygiadau cyllidebol.  Mae anawsterau o hyd gyda recriwtio staff, nid yn unig yng Nghaerdydd ond ledled De-ddwyrain Cymru; mae’r Cyngor yn trio sicrhau 2 gartref newydd; ac mae ymgyrch barhaol i recriwtio gofalwyr maeth.  2 flynedd yn ôl roedd 555 o blant yn derbyn gofal, ar hyn bryd 802 yw’r ffigwr hwnnw ac mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion cymhleth.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod gan yr Aelodau gyfle i ystyried yr adroddiad a'r atodiadau a nododd nad ydynt yn bwriadu gofyn unrhyw gwestiynau penodol yn ystod y cyfarfod. Nid oedd y Pwyllgor am gael yr un wybodaeth bob mis, roeddent am gael eglurhad o welliannau go iawn sy’n cael eu gwneud.  

 

CYTUNWYD – bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu sylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.