English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Chwarter 2 - Addysg

·         Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad;

·         Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a’i swyddogion yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau Aelodau;

·         Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

·         Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) a Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad y dywedodd y Pwyllgor ei fod wedi ei ddarllen a’i ystyried.  Roedd yr Aelodau yn ymwybodol y derbynnir yr adroddiad perfformiad blynyddol ar gyfer Ysgolion Caerdydd gan y Pwyllgor ym mis Ionawr ac y bydd y canlyniadau llawn ar gael ar yr adeg honno ac o ganlyniad  nodon nhw y byddent yn

gwneud sylwadau,  ceisio eglurhad neu godi cwestiynau pan fo’r adroddiad llawn ar gael.    

 

Roedd y Cyfarwyddwr am roi gwybod i'r Aelodau bod Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn dal mewn mesurau arbennig a’i bod yn dangos arfer cryf; bod Ysgolion Uwchradd yr Eglwys Newydd a Radyr wedi cwblhau gwaith monitro a bod disgwyl am ganlyniadau ar gyfer Ysgol Gynradd Trelái, er y gwyddir bod gwelliant sylweddol wedi bod.  

 

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.