Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy
Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) a
Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) i’r
cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad y dywedodd y Pwyllgor ei fod
wedi ei ddarllen a’i ystyried.
Cafodd
Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, ceisio eglurhad pellach neu
wneud sylwadau am y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi
isod:
- Croesawodd yr Aelodau lefel y buddsoddi
ar gyfer y rhaglen Band B, wedi’i hanner ariannu gan
Lywodraeth Cymru a’i hanner ariannu gan y Cyngor.
- Fodd bynnag,
gofynnodd yr Aelodau am y cynlluniau i fynd i'r afael â'r
materion sy'n ymwneud â chapasiti ac adeiladau ysgol a
dywedwyd wrthynt fod gwaith parhaol yn cael ei wneud i fynd i'r
afael â'r materion, ni fydd Band B yn mynd i'r afael
â'r holl faterion sy'n ymwneud â chapasiti ac adeiladau
y mae'r awdurdod yn eu hwynebu.
- Dywedwyd wrth yr Aelodau fod hyn yn un
o gyfres o adroddiadau a gaiff eu cyflwyno i’r Cabinet
sy’n ceisio eglurhad o ran a fyddai'r gwaith arfaethedig o
ailadeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan ar y safle cyfredol neu a
fyddai’r ysgol yn cael ei symud.
- Dywedodd
swyddogion y byddai angen ymgynghori ar
unrhyw newidiadau i leoliad yr ysgol dros bellter o 2 filltir a
bydd angen i’r Cabinet benderfynu arnynt, ond mae’n
debygol y caiff Ysgol Uwchradd Fitzalan ei hailadeiladu ar y safle
presennol.
Byddai angen yn gyntaf i’r cabinet
bennu’r blaenoriaethau; ac wedyn pennu’r gyllideb a
chynnal ymgynghoriad. O ran Ysgol
Uwchradd Fitzalan ni fyddai unrhyw waith ailadeiladu yn arwain at
symud neu estyniad sylweddol, ac o ran Woodlands, byddai’n
angenrheidiol ymgynghori â phartneriaid ar sut y caiff
darpariaeth ei chyflunio a’r angen i newid enw’r
ysgol.
- Roedd yr Aelodau am gael sicrwydd y
byddai pecyn cynnal a chadw cryf yn rhan o’r broses dendro a
dywedwyd wrthynt fod Caerdydd ar hyn o bryd yn awdurdod cynnal ar
gyfer fframwaith caffael Cyfalaf Ysgol De-ddwyrain Cymru,
sy’n darparu contractwyr profiadol a chymwys .
- Wrth
ystyried projectau adeiladu ac adnewyddu ar gyfer ysgolion mae
bellach wedi dod yn glir, o ganlyniad i ddysgu o Fand B, mai
dyluniadau safonol yn hytrach na rhai pwrpasol neu ddyluniadau un
tro yw’r ffordd ymlaen, ynghyd â thendro mewn llawer o
ysgolion, er enghraifft ar gyfer 3 ysgol yn hytrach nag 1. Fodd
bynnag, nid yw gwaith cynnal a chadw yn ffurfio rhan o’r
broses dendro ac felly mae angen cyfrif anghenion cynnal a chadw yn
y costau.
- Gofynnodd yr Aelodau am y cynnydd sy’n cael ei wneud
gyda’r llwyth wrth gefn o waith cynnal a chadw a dywedwyd
wrthynt na fydd Band B yn datrys yr holl faterion cynnal a chadw
ond bydd gwaredu adeiladau ysgol gradd D yn effeithio ar y llwyth
wrth gefn.
-
- Ceisiodd yr Aelodau eglurhad mewn
perthynas â rhai materion a godwyd mewn perthynas â
defnyddio cyfleusterau er lles y gymuned, deallwyd y bydd cwmni
preifat yn cymryd awenau'r gwaith o gynnal a chadw sawl cae a
chodwyd pryderon ynghylch a fyddai grwpiau chwaraeon cymunedol yn
gallu fforddio defnyddio'r caeau hynny.
Dywedwyd wrth yr Aelodau nad yw unrhyw
drefniadau gweithredol wedi’u cwblhau o ran cynnal a chadw ar
hyn o bryd.
CYTUNWYD – bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn
ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu sylwadau'r Pwyllgor wrth
drafod y ffordd ymlaen.