Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Sean Driscoll
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Philippa Hill-John
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
1. Y rhagwelir y bydd poblogaeth Caerdydd yn tyfu gan 26%, sydd y twf ac estyniad mwyaf a ragwelir ar gyfer unrhyw ddinas yn y DU yn ystod cyfnod ein Cynllun Datblygu Lleol.
Bydd yr estyniad hwn yn cynyddu llygredd traffig trwy’r ddinas.
2. Bod ansawdd awyr gwael yn niweidio iechyd pobl ac yn difrodi adeiladau - yn enwedig yn ein hardaloedd cadwraeth.
3. Y bydd tagfeydd traffig y tu allan i ysgolion yn cynyddu lefelau o lygredd yn ystod teithiau i'r ysgol.
4. Bod, ar hyn o bryd, mae Caerdydd yn methu â bodloni safonau ansawdd awyr o ran lefelau NO2 mewn ardaloedd o'r ddinas yn gyson, a bod lefelau gronynnau presennol yn cael effaith negyddol ar iechyd.
Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:
1. Dechrau monitro ansawdd Awyr Caerdydd yn fyw gyda gorsafoedd monitro mewn lleoliadau gwahanol ledled y ddinas.
2. Gwneud astudiaeth o ddichonoldeb cynhwysfawr o archwilio fflyd cerbydau Cyngor Caerdydd er mwyn sicrhau bod y cerbydau hynny’n cydymffurfio â thechnoleg sy'n ystyriol o'r amgylchedd, ac i ystyried y posibiliadau o grantiau ar gyfer technoleg gwyrdd ar fflydoedd bysus yn gweithredu yng Nghaerdydd.
3. Sicrhau bod Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys awdurdodau lleol a busnesau cymdogol i sicrhau y gellir dysgu o arfer gorau wrth gyflawni strategaethau awyr glân a'i weithredu yng Nghaerdydd.
4. Asesu lefel bresennol Caerdydd o barodrwydd i fanteisio ar dechnoleg cerbyd electronig, gan gynnwys pwyntiau gwefru a sicrhau bod Caerdydd yn gweithio tuag at ddod yn ddinas sy’n ystyriol o gerbydau electrig.
5. Datblygu ymhellach y cynllun cerdded i’r ysgol a chynlluniau teithio’r gweithle ar gyfer busnesau Caerdydd.
Dogfennau ategol: