English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cynnig 2

Cynigiwyd gan:           Y Cynghorydd Dan De’Ath


Eiliwyd gan:     Y Cynghorydd Susan Goddard

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:

 

1.     Gadawodd 130 o bobl ifanc (16 oed a h?n) ofal Cyngor Dinas Caerdydd a dechrau cyfnod pontio anodd allan o ofal i oed g?r yn ystod blwyddyn ariannol 16/17.

 

2.     Yn ôl adroddiad yn 2016 gan y Gymdeithas Blant, pan fo pobl sy’n gadael gofal yn symud i lety annibynnol maent yn dechrau rheoli eu cyllideb eu hunain yn llawn am y tro cyntaf.

Dangosodd yr adroddiad fod pobl sy’n gadael gofal yn cael hyn yn eithriadol heriol a heb deulu i’w cefnogi ac addysg ariannol annigonol, maent yn mynd i mewn i ddyled ac anhawster ariannol.

 

3.     Yn ôl ymchwil a wnaed gan y Ganolfan dros Gyfiawnder Cymdeithasol, mae dros hanner (57%) o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn cael trafferth rheoli eu harian ac osgoi dyled wrth adael gofal.

 

4.     Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldebau rhiant corfforaethol statudol tuag at bobl ifanc sydd wedi gadael gofal hyd at 25 oed.

 

Mae’r Cyngor hwn yn credu:

 

1.     I sicrhau bod pontio o ofal i fywyd oedolion mor ddidrafferth â phosibl, ac i leihau’r posibilrwydd o bobl sy’n gadael gofal yn mynd i mewn i ddyled wrth iddynt ddechrau rheoli eu cyllid eu hunain, y dylent gael eu heithrio rhag talu’r dreth gyngor.

 

2.     Mae Pobl sy’n Gadael Gofal yn gr?p sy’n enwedig agored i niwed o ran dyled treth gyngor.


Mae’r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu:

 

Mynd ag adroddiad i gyfarfod nesaf y Cabinet sy'n archwilio mesurau i ddefnyddio grymoedd ymgynnull Cyngor Y Ddinas a’i arbenigedd mewn rhianta corfforaethol i weithio gyda’r holl awdurdodau sy’n casglu treth gyngor i eithrio’r holl pobl sy’n gadael gofal yn y sir o dalu’r dreth gyngor, gan rannu unrhyw gostau sy’n codi’n gyfatebol.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.