Penderfyniad:
Nid ddylid cyhoeddi Atodiadau 1, 3 a 4 gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
cymeradwyo’r lleoliad a ffefrir i’r project arena dan do fel y nodir yn yr adroddiad, a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a'r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i:
(i) Ddatblygu strategaeth gyflawni fanwl i’r project arena dan do gan gynnwys goblygiadau ariannol manwl i’r Cyngor a dychwelyd i’r Cabinet i gael yr awdurdod i fwrw ymlaen.
(ii) Fel rhan o (i) uchod, negodi telerau i gaffael tir nad yw'n eiddo'r Cyngor ar hyn o bryd, sy'n goch ar y cynllun safle a atodir yn Atodiad 5, a dychwelyd i'r Cabinet i gael yr awdurdod i fwrw ymlaen â phrynu’r safle.
Cofnodion:
Ni fydd Atodiadau 1, 3 a 4 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Eithriwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei thrafod
Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar ganlyniadau ymarfer arfarnu safle i adnabod y lleoliad gorau ar gyfer project arena dan do. Nodwyd bod angen gwaith dichonoldeb ar y lleoliad a ffefrir gan gynnwys arfarniad ariannol manwl a bod angen diwydrwydd dyladwy i lywio’r gwaith o ddatblygu strategaeth gyflawni. Caiff hon ei chyflwyno i’r Cabinet i’w hystyried yng ngwanwyn/haf eleni
PENDERFYNWYD:
cymeradwyo’r lleoliad a ffefrir i’r project arena dan do fel y’i nodir yn yr adroddiad, a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a'r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i:
(i) Ddatblygu strategaeth gyflawni fanwl i’r project arena dan do gan gynnwys goblygiadau ariannol manwl i’r Cyngor a dychwelyd i’r Cabinet i gael yr awdurdod i fwrw ymlaen.
(ii) Fel rhan o (i) uchod, negodi telerau i gaffael tir nad yw'n eiddo'r Cyngor ar hyn o bryd, sy'n goch ar y cynllun safle a atodir yn Atodiad 5, a dychwelyd i'r Cabinet i gael yr awdurdod i fwrw ymlaen â phrynu’r safle.
Dogfennau ategol: